Symud tŷ

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis ynghynt mewn damwain ffordd. Teithiais gyda fy ngŵr a fy nau blentyn bach, a oedd yn bedair a blwydd oed ar y pryd. Cofiaf gyrraedd a pharcio tu allan i gaffi Joe’s ice cream yn y Mwmbwls, yn y tywyllwch. Eisteddom yn edrych ar y goleuadau neon, yn y glaw, wrth i ni benderfynu pa un ohonom fyddai’n mynd i chwilio am siop i brynu llaeth a rhywbeth i frecwast.

Cyrhaeddom ein tŷ dros dro, ac fe barhaodd i fwrw glaw. Es allan i brynu pâr o sgidiau newydd, wedi deall na fyddai fy hen sgidiau yn gwneud y tro yn y ddinas hon. Sut oedd pobl yn dod i ben yn byw â chymaint o law? Fyddai hi fel hyn bob dydd? Roedd hi’n oer gydol y flwyddyn, bron, yn Newcastle upon Tyne ond anaml iawn oedd hi’n wlyb. Roeddwn wedi dod i werthfawrogi’r sychder, a’r effaith a gâi ar benderfyniadau bob dydd, fel beth i wisgo neu sut i drin fy ngwallt.

Dyma ddechrau creu arferion newydd: dyma’r ffordd y byddwn ni’n gyrru i’r ysgol; dyma’r feithrinfa; fan hyn fyddwn ni’n mynd i gael coffi; ac wedi tri diwrnod: hwn yw ein hoff le i gael coffi. Roedd hi’n od gallu chwarae Radio Cymru yn y car, a bod gofyn i mi wisgo bathodyn yn y gwaith i ddangos fy mod i’n siarad Cymraeg. Ond tu hwnt i hynny, doedd pethau ddim mor wahanol â hynny. Doeddwn i ddim wedi byw yng Nghymru ers pymtheng mlynedd, ond mewn cymaint o ffyrdd, doeddwn i erioed wedi gadael.

Sut oedd deall y penderfyniad hwn i symud? Sut oedd meddwl am unrhywbeth pan nad oeddwn i eto yn cael noson iawn o gwsg? Gaiff fy mhlentyn i ddod i’r ysgol yma plis? Caiff. Fydd hi’n setlo’n iawn? Bydd. Doedd dim llawer o sgwrs yma. Why exactly did you move then? Hwn oedd y cwestiwn fyddwn i’n ei gael dro ar ôl tro yn y gwaith. Doeddwn i ddim wedi paratoi fy hun i ateb cwestiwn mor anodd. Ar un llaw, roeddwn i’n cael clywed lle mor arbennig oedd Abertawe a Chymru. Ac ar y llaw arall, mynegai pobl y fath syndod wrth glywed bod rhywun yn dewis symud yma. Sut mae deall gweld y lle hwn fel y man mwyaf godidog ac, ar yr un pryd, fel rhywbeth sy’n achos cywilydd?

✒︎

Aeth mis Mawrth yn fis Mai ac yna Mehefin, a dechreuodd gynhesu. Dyma ni’n araf hel gweithwyr i drwsio problemau yn y tŷ ac yn dysgu bod rhaid torri nifer o’r coed yn yr ardd. Meddyliais am yr hen gwpl oedd yn arfer byw yma a chymaint roedden nhw wedi mwynhau’r coed. Synhwyrais peth mor dreisgar oedd newid y tŷ yn gartref i ni. Yng nghanol y dinistr, daeth pleidlais Brexit, a cherddais y strydoedd newydd hyn yn ansicr o’r awyrgylch newydd.

Ym mis Gorffennaf eisteddais i a’r plant ar ben y garej yn gwylio Sioe Awyr Cymru. Gyda’r streipiau lliwgar yn rhedeg drwy’r awyr, gwahoddais y plant i’w henwi nhw: Coch! Glas! Gwyn! Roedd y plant yn rhy ifanc i ddeall symboliaeth y lliwiau. A tha waeth, ro’n ni’n rhy brysur yn ceisio osgoi llosgi’n traed ar wres to’r garej. Es i nôl blancedi. A sylweddolais nad oeddwn i’n cofio gwres fel hyn ers byw yn Llundain. Gwnaeth i mi feddwl am y siopau Twrceg ger ein hen dŷ yno: y melonau dŵr fyddai’n llenwi’r palmant bob haf, y papayas, a’r ffigys. Roedd hi’n braf cael bod mewn gwres poeth go iawn unwaith eto. Doeddwn i ddim yn cofio gwres fel hyn yn Aberystwyth, lle cefais fy magu. Y peth brafiaf oedd gweld yr haul yn disgleirio ar ddŵr y môr: rhywbeth amhosib ar arfordir y dwyrain. Doeddwn i ddim yn siŵr beth o’n i’n ei ddisgwyl o symud tŷ, ond roeddwn i wedi colli gweld yr haul yn machlud ar yr ochr yma i’r Ddaear.

✒︎

Pa fath o emosiynau sydd ynghlwm â gwleidyddiaeth Brexit a beth yw hanes gwleidyddol yr emosiynau hynny? Dyma gwestiwn canolog llyfr Fintan O’Toole, Heroic Failure. Brexit and the Politics of Pain (2018). Nid yw’n canolbwyntio cymaint ar naratifau per-sonol ond ar yr awyrgylch, yr agweddau a’r meddylfrydau cyhoeddus sydd wedi gwneud Brexit yn bosib, gan eu lleoli nhw mewn perthynas â hanes yr ymerodraeth Brydeinig. Mae’n cychwyn, felly, trwy drafod ei fagwraeth yn Iwerddon, a sut, trwy gyfrwng y profiadau a gafodd, ei fod yn hen gyfarwydd â syniadau am ‘ni a nhw’. Wrth drafod ei ieuenctid, dywed ei fod nid yn unig yn deall syniadau am hunaniaeth a chenedl ond ei fod hefyd wedi teimlo’r syniadau hynny. Dyma bwynt diddorol: bod y rhain nid yn unig yn gysyniadau ond yn emosiynau dwfn, a’i fod yn eu hadnabod yn ei esgyrn:

The official Irish culture of my childhood and youth was one that defined Ireland as whatever England was not. England was Protestant; so Catholicism had to be the essence of Irish identity. England was industrial; so Ireland had to make a virtue of its underdeveloped and deindustrialized economy. England was urban; so Ireland had to create an image of itself that was exclusively rustic. The English were scientific rationalists; so we Irish had to be mystical dreamers of dreams. They were Anglo-Saxons; we were Celts. They had a monarchy, so we had to have a republic. They developed a welfare state; so we relied on the tender mercies of charity. In other words, I know exactly what an either/or identity looks and feels like.

Fel y dywed O’Toole, mae syniadau deuol ynglyn â hunaniaeth (fel dewis rhwng dwy elfen – naill ai/neu), yn rhywbeth mae llawer ohonom yn ei adnabod yn dda. I mi, mae’n rhan o’r profiad o fod wedi fy magu mewn cymuned Gymraeg. Wrth iddo dyfu, dywed O’Toole y daeth Lloegr i olygu mwy iddo na rhywbeth gwahanol i Iwerddon. Aeth nifer o’i fodrybedd, a’i ddewyrth, i Loegr er mwyn manteisio ar y wladwriaeth les, cyfleon addysg a wnaed yn bosib gan yr Ail Ryfel Byd, ac er mwyn dianc oddi wrth ragfarnau a gwasgfa’r diwylliant Gwyddelig. Mae nifer o Gymry hefyd wedi deisyfu dianc oddi wrth y profiad Cymraeg ond prin yw’r llenyddiaeth sy’n gymorth i ni ddeall y teimladau mwy cymysg ac amwys hynny.

Ym marn O’Toole, mae hunandosturi yn emosiwn canolog i Brexit. Dadleua mai’r teimlad o hunandosturi sy’n egluro sut y gall mudiad asgell dde gwrth-Ewropeaidd lwyddo i ddychmygu a phortreadu Prydain fel cenedl dan warchae. Yn wir, cyflwyna ddadl ddiddorol ynghylch y modd y mae syniadau o fethiant arwrol (‘heroic failure’) yn plethu drwy seicoleg cenedlaetholdeb Seisnig. Defnyddia esiampl o stori am ddarganfod gweddillion llong yr HMS Terror – un o ddwy a gollwyd yn ystod taith Syr John Franklin i ddarganfod y Northwest Passage ym 1848. Bu farw 129 o ddynion yn ystod y daith hon. Drwy olrhain yr hanes, gan ddefnyddio llyfr Stephanie Barczewski, Heroic Failure and the British (2016), mae’n trafod sut y gweddnewidiwyd stori o fethiant ar raddfa anferthol yn chwedl am arwyr Fictorianaidd. Ar daith gyntaf Franklin yn 1819-1820, er enghraifft, bu farw naw o blith yr ugain o ddynion a oedd yn teithio gydag ef. Ond wedi dychwelyd, ysgrifennodd am lwyddiant y daith, gan bwysleisio y ‘splendid display of those noble qualities which seem particularly distinctive of the Saxon race’. Pwynt O’Toole yw bod y syniadau hyn am arwroldeb, gwydnwch ac ysbryd o annibyniaeth, sy’n lliwio’r modd y mae taith Franklin yn cael ei hadrodd, yn rhan annatod o ideoleg cenedlaetholdeb Seisnig. Heddiw, mae syniadau o’r fath yn cydblethu â gwleidyddiaeth boblyddol a syniadau am ‘y bobl’. Ac fel mae Angharad Penrhyn Jones yn dadlau yn ei herthgyl yn rhifyn Gaeaf 2018 y cylchgrawn hwn (‘Poblyddiaeth: y cysgod arhosol’), maent hefyd yn syniadau gwrywol.

I O’Toole, mae syniadau am wroldeb a methiant arwrol yn greiddiol i syniadau am Brydain fel ymerodraeth, ac yn dibynnu ar anwybyddu hanes a thrais gwleidyddiaeth drefedigaethol. Yn wir, campwaith meddylfryd cenedlaetholdeb Seisnig yn ei farn ef yw gwrthod ystyried, astudio na thrafod y dioddefaint a brofodd miliynau dan yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae hunandosturi felly, yn ôl O’Toole, yn ganolog i’r dasg o anwybyddu’r hanes hwn. Dyna beth sy’n esbonio sut y gall Prydain – gwlad a fu’n trefedigaethu gwledydd eraill – gyflwyno ei hun fel gwlad drefedigaethol dan warchae. Trwy wyrdröedigaeth ryfedd felly, a dim llai na ‘dramatic bypass operation’, dadleua fod Prydain yn cario poen y rheiny a orthrymodd: ‘This may be the last stage of imperialism – having appropriated everything else from its colonies, the dead empire appropriates the pain of those it has oppressed.’

Mae’r llyfr yn adrodd stori bwysig – stori am genedlaetholdeb Seisnig. Ond mae yna sawl stori arall hefyd ynghlwm wrth Brexit.

Wrth drafod Brexit o safbwynt cymoedd de Cymru flwyddyn yn ôl, yn rhifyn Gwanwyn 2018 O’r Pedwar Gwynt (‘Brexit, y Crow a gobaith radical’), mae Catrin Ashton yn mynegi cydymdeimlad â’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n amddiffyn y teimladau dwfn ac amwys yn y parthau hyn. Mae yna straeon eraill i’w hadrodd felly: am rôl polisïau economaidd llymder a’r tlodi mewn dinasoedd a threfi y tu allan i ganolfannau grym a chyfoeth; am argyfwng y system wleidyddol bresennol a phleidiau gwleidyddol; am rôl Facebook a’r algorithmau sy’n pweru gwefannau cymdeithasol. Does dim llawer o drafod ar y pynciau ehangach hyn yn llyfr O’Toole. Prin hefyd yw’r drafodaeth am y modd y mae’r syniadau cyfarwydd hyn, am wroldeb, gwydnwch, ac ysbryd o annibyniaeth, sy’n rhan o hunaniaeth cenedlaetholdeb Seisnig, hefyd yn cael eu mewnoli gan ddinasyddion gwledydd ôl-drefedigaethol, gan gynnwys Cymru.

✒︎

Yn nofel Anna Burns, Milkman, enillydd gwobr Man Booker 2018, mae’r awdur yn ymdrin â’r hyn a ddisgrifia fel yr awyrgylch seico-wleidyddol (‘psycho-political atmosphere’) sy’n rhan o fyw dan sgileffeithiau ymerodraeth ac â chenedlaetholdeb treisiol. Mae hithau hefyd yn cychwyn â’r syniad – a’r teimlad – o ‘ni’ a ‘nhw’:

‘Us’ and ‘them’ was second nature: convenient, familiar, insider, and these words were off-the-cuff, without the strain of having to remember and grapple with massaged phrases or diplomatically correct niceties.

Dyma nofel anodd i’w darllen – nid o ran y geiriau, sy’n llifo, ond o ran y modd y mae’n cydio yn y stumog ac yn gwasgu. Gosodwyd y nofel yng Ngogledd Iwerddon. Trwy adrodd y stori o safbwynt merch sy’n edrych yn ôl ar yr hyn a ddeallai ac nas deallai yn ferch fach, mae Burns yn cyfleu, drwy gyfrwng ei naratif, sut mae gwleidyddiaeth genedlaetholgar ‘ni’ a ‘nhw’ yn cyd-fynd â gwleidyddiaeth rywedd, â syniadau am wahaniaethau rhwng merched a bechgyn, ynghyd â gwahaniaethau syth-hoyw. Mae’r testun, sydd wedi ei ysgrifennu ar ffurf llif yr ymwybod, yn neidio mewn amser ac yn fwriadol ddryslyd: drwy gyfrwng yr arddull hwn, symudwn rhwng amrywiol gyflyrau meddwl y prif gymeriad, a dengys Burns y llithriadau rhwng trais ar sail rhywedd a thrais ar sail gwahaniaethu cenedlaethol. Yr hyn sy’n peri’r fath aflonyddwch wrth ddarllen Milkman (2018) yw’r modd mae’r awdur yn chwalu’r ffantasi o ‘annibyniaeth’ trwy drafod perthynas merch â’i chorff a’i hunanymwybyddiaeth, a’r modd y mae cymeriadau eraill (gan gynnwys ei mam) yn ceisio hawlio’r corff a’r hunanymwybyddiaeth honno. Mae’n ymdrin â’r holl wahanol raddau o drais: gwthio, ymwthio, cyflyru, aflonyddu; trais fel gweithred, ond hefyd fel awyrgylch: ‘These were knife-edge times. Primal times, with everybody suspicious of everybody.’ Dyma bortread o awyrgylch gorthrymus pan fo syniadau am ferched-bechgyn, ni a nhw, o bobl o fan hyn a phobl o fan draw yn gwasgu, ac yn y pen draw, yn dinistrio cymunedau cyfan:

Rules of allegiance, of tribal identification, of what was allowed and not allowed, matters didn’t stop at ‘their names’ and at ‘our names’, at ‘us’ and ‘them’, at ‘our community’ and ‘their community’, at ‘over the road’, ‘over the water’ and ‘over the border’ … There was food and drink, the right butter. The wrong butter. The tea of allegiance. The tea of betrayal. There were ‘our shops’ and ‘their shops’. Placenames. What school you went to. What prayers you said. What hymns you sang. 

Yn yr awyrgylch cyfyng hwn, mae popeth yn ddewis gwleidyddol: o ddewis ysgol i ba wyau i’w prynu. Try syniadau am bethau bach bob dydd i gyd yn ddadleuol ac yn gyfle i bobl feirniadu, er bod neb yn sicr o oblygiadau y penderfyniadau hynny. Dyma pam y mae cwestiynau am deimladau ac am awyrgylch yn gwestiynau gwleidyddol: gan fod y teimlad sydd mewn stafell neu ar y stryd yn gallu newid yn gyflym o rywbeth ysgafn i rywbeth sy’n peri anesmwythyd. Dyma nofel sydd hefyd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd creiddiol cymysgfa – cymdeithasau, cenhedloedd, pobloedd a diwylliannau: stori hanfodol yng nghyd-destun Brexit.

✒︎

Yn y 1990au cynnar, yng nghyd-destun twf trydedd ton gwleidyddiaeth ffeminyddiaeth, cyhoeddodd y damcaniaethydd gwleidyddol Wendy Brown draethawd ar y testun ‘Ymlyniadau Clwyfedig’ – ‘Wounded Attachments’ (1993). Mae’r pwnc yn parhau’n berthnasol wrth feddwl am wleidyddiaeth Cymru, ac mae’r traethawd yn werth ei ddarllen â Brexit mewn golwg, lle mae galw arnom i feddwl mor eang â phosib am ffyrdd newydd o ystyried pwy ydyn ni a sut i drefnu ein hunain yn wleidyddol.

Dadl Brown yw bod symudiadau gwleidyddol sydd wedi eu hadeiladu o amgylch y teimlad a’r profiad o orthrwm mewn peryg o ail-greu’r strwythurau grym y maent yn anelu i’w gorchfygu. Datblyga’r ddadl drwy gymorth gwaith yr athronydd Michel Foucault. Dadl Brown yw bod syniadau am ryddid yn aml ynghlwm wrth syniadau am ddolur cymdeithasol, sydd yn greiddiol i hunaniaeth. Er enghraifft, rydym am i Gymru fod yn rhydd oherwydd bod Cymru wedi ei chlwyfo. Ond dadleua bod peryglon mewn adeiladu mudiad gwleidyddol o amgylch y syniad o glwyf: mae peryg, er enghraifft, ein bod ni’n rhy barod i feddwl ein bod ni’n deall clwyfau gwleidyddol eraill sydd, mewn gwirionedd, yn dra gwahanol. Mae peryg hefyd ein bod ni’n ystyried ein hunain fel rhai sy’n ymbledio’n naturiol dros wleidyddiaeth drugarog a dyngarol – ond yn gwneud hynny heb gwestiynu’r syniad o pwy ydy’r ‘ni’ sy’n barod i helpu neu i estyn croeso.

Clywn yn aml am Gymru fel enaid clwyfedig (‘wounded subject’). Ystyriwch y modd y mae’r sgwrs ar Trydar yn mynd yn wemfflam pan gyhoeddir stori arall am rywun mewn tafarn yn cwyno wrth glywed Cymraeg. Nid fy mwriad yn y fan hon yw cloriannu’r gwahanol achosion hyn fel rhai niweidiol ai peidio. Yn hytrach, hoffwn ofyn – gyda Wendy Brown – pa fath o ddychymyg gwleidyddol sydd yn tyfu ar sail straeon am glwyf cymdeithasol? Pwy sy’n clywed y protestiadau hyn? A phwy sydd wedi hen roi’r gorau i wrando, gan fod y straeon – yn anffodus – mor rhagweladwy?

Y peryg arall wrth ddatblygu mudiad gwleidyddol o amgylch y syniad o ddolur yw bod Cymru – fel enaid sydd angen ei achub – yn magu tipyn o bwysau. Dyma endid sy’n cael ei ddychmygu fel petai wedi goroesi drwy hanes: mae’n gyfrifoldeb, mae’n rhoi ystyr i fywyd – mae hefyd, efallai, yn troi yn fwrn. Clywn yn aml am Gymru drwy fframwaith naill ai/neu: fel y wlad orau yn y byd: gwlad celfyddyd; gwlad o olygfeydd godidog. Wel, iawn. Ond beth arall? Neu, beth nesaf?

Beth fyddai’n rhaid ei wneud er mwyn galluogi synied am Gymru mewn ffyrdd gwahanol? Er enghraifft, fel rhan o nifer o fudiadau gwleidyddol sy’n cyd-blethu: gan gynnwys gwleidyddiaeth amgylcheddol, gwrth-hiliol, dad-drefedigaethol, ac fel rhan o nifer o fudiadau y mae rheidrwydd arnynt i ailfeddwl y cysyniad o Ewrop. Efallai mai maintais edrych ar wleidyddiaeth Brexit o safbwynt fy nghartref newydd yw gallu gwylio anghysonderau’r syniad o ‘annibyniaeth’ ar waith, wrth brofi ar yr un pryd y modd y mae’r profiad Cymraeg – fel teimlad yn fwy na syniadaeth gadarn – hefyd yn gadwrfa o syniadau eraill ynghylch sut mae deall pwy ydyn ni a sut mae byw gyda’n gilydd.

✒︎

Yn ei llyfr Hope in the Dark (2016), datblyga Rebecca Solnit ddadl ynghylch meddwl yn wleidyddol heb ddeisyfu sicrwydd am ein hunaniaeth, ein gwleidyddiaeth a’n dyfodol. Yn hytrach nag ymateb i wahanol argyfyngau y byd cyfredol gyda rhaglenni a modelau rydym eisoes yn gyfarwydd â hwy, mae Solnit yn ein gwahodd i arbrofi: i dderbyn yr ansicrwydd a deimlwn ynghylch pwy ydyn ni a sut mae trefnu’r byd o’n hamgylch. Pa fath o wleidyddiaeth fyddai’n bosib o feddwl am Gymru mewn termau heblaw enaid clwyfedig? Sut mae meddwl am waith gwleidyddol mewn termau ehangach nag un llwybr tuag at ryddid neu un digwyddiad fyddai’n newid popeth? Dywed Solnit nad oes angen meddwl am fyd gwahanol gan fod modelau eraill o fyw eisoes ar gael i ni:

Activists often speak as though the solutions we need have not yet been launched or invented, as though we are starting from scratch, when often the real goal is to amplify the power and reach of existing alternatives. What we dream of is already present in the world. 

Y dasg, yn hyn o beth, yw peidio ag edrych ar hanes fel byddin yn gorymdeithio tua’r dyfodol. Yn hytrach, mae’n golygu trin newid gwleidyddol fel rhan o wead a gwaith bywyd bob dydd. Mae hanes, felly, yn debycach i hyn: ‘It is a crab scuttling sideways, a drip of soft water wearing away a stone, an earthquake breaking centuries of tension.’

Efallai mai dyma, erbyn hyn, yw fy mhrofiad i o symud tŷ: ceisio osgoi rhai o’r teimladau mawr, trwm am y lle hwn, ac yn lle hynny, teimlo fy ffordd, a symud wysg f’ochr.

 

Published 24 September 2019
Original in Welsh
First published by O’r Pedwar Gwynt 1/2019 (Welsh version); Eurozine (English version)

Contributed by O’r Pedwar Gwynt © Angharad Closs Stephens / O’r Pedwar Gwynt / Eurozine

PDF/PRINT

Published in

Share article

Newsletter

Subscribe to know what’s worth thinking about.

Discussion