Carw rhyfeddol yr helfa dragwyddol

Sfetlana Aliecsiefits yn siarad â Staffan Julén

Anrhydeddwyd y newyddiadurwraig a’r awdur Belarwsiaidd Sfetlana Aliecsiefits â Gwobr Nobel am Lenyddiaeth 2015, am ei gwaith yn dogfennu bywydau dinasyddion Sofietaidd ac ôl-Sofietaidd. Mae ei phrosiect diweddaraf, am gariad, yn ffocws ffilm ddogfen gan y gwneuthurwr ffilmiau o Sweden, Staffan Julén. Wrth siarad â Julén isod, mae hi’n trafod pam benderfynodd hi droi o ddogfennu rhyfel i ddogfennu cariad.

Bywyd ei hun sy’n rhoi bod i’m themâu bob un. Ar y dechrau, fel y gwyddost, datblygodd hynny’n nifer o lyfrau. Hanes y cyfnod hwnnw, y cyfnod Coch, pan oedd y Syniad yn bwysicach na dim. Roedd pawb wedi eu heintio gan y Syniad, rhai yn fwy nag eraill. Neu o leiaf, roeddent wedi eu ffrwyno ganddo. Ond roedd pawb yn dibynnu ar y Syniad hwn ac roedd nifer yn credu ynddo’n ddiffuant. Yn y diwedd, collodd llaweroedd eu ffydd. Ond goroesodd y Syniad, megis cnewyllyn di-ildio, megis barryn dur wedi ei atgyfnerthu. Yn ystod yr oes honno, y cyfnod pan oedd y Syniad yn llywodraethu, digwyddodd llawer o bethau. Dewisais ganolbwyntio ar y digwyddiadau mwyaf llethol, mwyaf dramatig, rhai allasai daflu golau ar bwy oeddem fel pobl. Yr hyn y bu i ni ei oddef. Sut y cawsom ein twyllo gan y weledigaeth iwtopaidd honno. A sut, ar y dechrau, nad oeddem wedi deall, ond yn y diwedd, ein bod wedi dechrau deall; na fyddem wedi gallu goddef byw mewn unrhyw ffordd arall. Fyddai hynny ddim wedi tycio yn ein hachos ni. 

Wrth i mi symud ymlaen, o un llyfr i’r nesaf, mi wnaeth un peth fy nharo. Mae pobl yn barod i drafod y rhyfel neu Chernobyl. Ond anaml y byddant yn trafod dedwyddwch. Roedd gen i’r teimlad cynyddol nad oedd pobl yn trafod y pethau a oedd wirioneddol o bwys mewn bywyd. Ac mi fyddwn i’n edrych yn ôl dros fy mywyd fy hun. Fy mhlentyndod, er enghraifft. Fyddai fy rhieni fyth yn trafod dedwyddwch: pwysigrwydd dedwyddwch a’r profiad o aeddfedu. Harddwch bywyd a gorfoledd cariad, pan ddaw; sut y byddai plant yn dod i’n rhan, ond cariad hefyd. A’i fod yn rhywbeth mor enigmataidd, mor ddiddorol. Roedd ein holl drafod am farwolaeth a’r famwlad. Ni fyddai unrhyw drafod ar yr hyn sy’n bwysig ynghylch ein bywydau fel bodau dynol. Yn hwyrach ymlaen, mwy o’r un peth a gafwyd. Wrth gwrs, mi fyddai pobl yn ymserchu ac yn byw eu bywydau. Ond fu gennym erioed athroniaeth am fywyd, fel petai. Roedd hi’n fater i’r unigolyn geisio gwthio ymlaen yn ddyddiol, ac ymgyrraedd at yr ystyr waelodol. Ni ystyrid hyn yn athron iaeth, yn athroniaeth i unigolion, i gymunedau. Roedd rhywbeth a oedd yn bwysicach, bob tro. Rhywbeth a ymgodai uwchlaw bodau dynol. Rhyw fath o ymlafnio, rhyw fath o aberth y mae’n rhaid bod yn barod amdano, bob amser. A phan ddeuthum i ddiwedd y gyfres honno o lyfrau – pan oedd iwtopia wedi ei gorchfygu, pan oeddem oll wedi ein dal yn y rwbel a adawyd ar ôl ganddi – dechreuais feddwl fy mod am ysgrifennu cofnod o’r hyn ydym.

Roeddwn yn pendroni: beth fyddai calon naratif fel yna? Mewn cyfnod blaenorol Afghanistan fyddai’r cnewyllyn wedi bod, neu’r rhyfel, neu Chernobyl – ble fyddai erbyn hyn? Meddyliais y byddai’r cnewyllyn hwn yn debyg o gael ei ddarganfod ymhlith y pethau na fyddem fyth yn arfer meddwl amdanynt. Fyth, hynny ydi, hyd heddiw, pan gafodd bywyd preifat, yn y diwedd, ei atgyfodi. Pan mae arian, yn y diwedd, wedi dechrau golygu rhywbeth, wedi ennill ystyr. Cynt, doedd neb ag arian. Doedd dim ystyr arbennig i arian. Ond erbyn hyn, mae pobl wedi dechrau teithio, gweld y byd. Iddyn nhw, cododd llawer o gwestiynau; roeddent wedi darganfod dyheadau. Pe baent yn dymuno hynny, gallasent blymio i ryw
fath o gefnfor aruthrol a fyddai’n gwbl anghyfarwydd iddynt. Hynny ydi, plymio i fywyd preifat. Cynigiai ffurf arall ar ystyr i ddyn, yn hytrach na mynd i ffwrdd i rywle i farw. Fel y digwyddodd pethau, nid oedd llenyddiaeth – llenyddiaeth Rwsiaidd – o gymorth iddynt oherwydd bod y llenyddiaeth hon bob amser wedi ymboeni ynghylch pethau go wahanol. Hynny ydi, â syniadau dyrchafedig ac aruchel. Mae bob amser yn cynnwys rhyw elfen sy’n barod i sathru ar fywyd dyn. Waeth pa syniad uwch, aruchel, bynnag y bo. Ac yna meddyliais: wrth gwrs, cariad yw’r elfen bwysicaf, fwyaf sylfaenol amdanom; cariad, a’r amser pan ydym ar fin llithro ymaith. Pan ymbaratown i ddiflannu o’r byd hwn. Felly, meddyliais, fel syniad cychwynnol: Cariad a Marwolaeth. Yna penderfynais fwrw ati […] a dechrau holi pobl gan ofyn iddyn nhw ddweud rhywbeth wrtha i am eu bywydau. Yn bwysicach na dim: siarad am gariad: a fu’n rhan o’u bywydau, neu fallai na chafodd ei ddarganfod? Mae’n ymddangos fod pobl yn rhannu i’r naill grŵp neu’r llall: un ai fe wyddant beth yw cariad neu ddim. Does dim gwahaniaeth a gawsant blant ai peidio. Felly, am gryn dipyn o amser … ers pum, chwe, saith mlynedd, yn fras, mae hyn wedi bod ar flaen fy meddwl. Yn y cyfamser, rydw i’n recordio pobl wrth iddynt siarad. Dyna pryd mae rhywun yn dechrau teimlo’i fod yn cael gafael, rywsut, ar y deunydd, ac yn raddol yn dechrau cael teimlad am natur y llyfr, rhagflas o’r trywydd.

Ti’n gweld, pan fyddaf yn holi rhywun, tydw i ddim yn ei chroesholi am ‘y rhyfel’. Rydw i’n gofyn iddi am ei bywyd, a phan mae hi’n siarad efo fi am fywyd, mi fydd yn anorfod yn dweud rhywbeth am gariad. Yn reit aml, mi fydd yn dweud pethau wrtha i am gariad. Yn fy nghyfrolau cynharach, nid oedd cariad, wedi’r cyfan, yn ganolog, mewn ffocws. Yn lle hynny, rhyw fath o ddigwyddiad, megis Chernobyl, oedd yr allwedd iddo. Felly nid cariad oedd y brif thema, fel rhywbeth ynddo’i hunan. Nid oes amcan gennym, wrth gwrs, o’r amrywiaeth mawr o emosiynau y byddai’r unigolion hyn wedi eu teimlo ar y pryd, neu sut oedd pethau iddyn nhw. Yno, ar y pryd, mynnu aberth fyddai cariad yn yr achosion hyn. Dangosodd y merched eu bod yn barod i aberthu. Mor gryf oedd eu cariad.

Er hynny, y digwyddiad oedd y peth mwyaf – y digwyddiad aruthrol hwnnw, Chernobyl, hynny ydi. Wyt ti’n cytuno? Ond y tro hwn, bydd y thema cariad yn cael ei thrin yn wahanol. Er enghraifft, pan ddechreuais ddarllen y canon llenyddol o’r persbectif hwnnw, a hefyd edrych ar ein llenyddiaeth fodern, y clasuron, sylweddolais mai am gariad yr oedd ein llenyddiaeth yn siarad leiaf. I ni, mae fel hyn: un ai mae’n rhosod a mimosa i gyd – y math yna o senti-mentaliaeth. Neu, mae’r arwr yn mynd i ffwrdd i rywle, er mwyn ei wlad, er mwyn syniad – fel yng ngwaith Twrgenef. Ac yng ngwaith Leo Tolstoi hefyd, pan mae Fronsci yn mynd i ffwrdd i ymladd yn y rhyfel. Er y cyfan sy’n digwydd, does dim llawer yn cael ei ddweud am gariad yn ei rinwedd ei hun. Mae’n wir hyd yn oed yn ein hiaith – nad ydi iaith cariad wedi datblygu rhyw lawer ynddi. Tydi cariad ddim mor bresennol yn ein hiaith ni ag y mae mewn llenyddiaeth Ffrangeg. Mae gan yr iaith Ffrangeg ddeg o eiriau i ddisgrifio cyflwr corff dynes wedi cyfathrach o gariad. Neu i ddisgrifio symudiadau dwylo anwylyd. Nid oes dim byd o’r fath yn ein hiaith ni. Mae’r cyfarfod a’r canlyn, maent yno, ond mae union broses cariad, cariad ei hun, yn cael ei weld fel rhywbeth ansylweddol. Nid yw’n cael ei drin fel rhywbeth diriaethol. Fel y dywedodd y plentyn pan wnes i ei holi: ‘Am beth mae cariad, yn dy farn di?’ Wel, na, holais yn hytrach, ‘Sut y daethost i fod?’ Felly, dyma’r plentyn yn dweud: ‘Cusanodd Mam a Dad ac yna des i.’ A dyna sut mae hi, fwy neu lai, mewn llenyddiaeth. Rydw i am geisio troi’r gofod hwn yn rhywbeth mwy addas i fyw ynddo, i ysgogi pobl i fod yn fwy parod i feddwl am ddedwyddwch fel rhyw fath o ehangder mawr. Megis adeilad, tŷ â nifer helaeth o gypyrddau bach ac ystafelloedd bychain, ac ar gyfer pob un ohonynt, mae angen goriad arbennig. Mae’n cymryd einioes i wehyddu gwe cariad ac mae’n rhaid bod yn barod ar ei gyfer. Dyna’n union pam rydw i am gyflwyno’r thema hon i’r byd.

Wrth i mi fynd ati i wneud hynny, rydw i – mae’n ddrwg gen i ddweud hynny – wedi dod ar draws problemau mawr. Nid dim ond nad yw cariad yno yn ein llenyddiaeth. Rydw i hefyd wedi cael anawsterau oherwydd bod raid i’r llyfr newydd gael ei ysgrifennu gan berson newydd. Rhywun sy’n gorfod meddwl mewn ffordd wahanol a defnyddio geirfa o fath arall. Rhywun sy’n gallu ymdeimlo â rhyddid emosiynol o fath arall, un nad oedd yn ofynnol yn fy ngwaith blaenorol. Roedd yr eirfa’n wahanol bryd hynny. Roedd hi’n iaith amgenach, galetach. Mae gen i deimlad y bydd hon yn datblygu’n daith anarferol o hir. Bydd yn dasg anarferol o anodd.

Ar y naill law: dyma fy ffordd ymlaen, mae’n gam ar fy nhaith. Mae’r siwrne yn rhan o’m bwriadau presennol. Ar y llaw arall: o fy mlaen, mae cyfle i siarad am yr hyn sy’n werthfawr mewn bywyd; yn bersonol, teimlaf fod yr holl eiriau eraill wedi eu gwagio o ystyr. A ddylwn i deithio eto i ddarganfod y rhyfel, ac yna ysgrifennu am y rhyfel? A siarad unwaith eto am y modd y mae pobl yn lladd ei gilydd yn ddisynnwyr, ac mai galwedigaeth wallgof yw llofruddio cyd-ddyn? Y dylid lladd syniadau, nid pobl? Y dylai pawb eistedd i lawr efo’i gilydd a thrafod …? Does dim o hynny’n gweithio mwyach. Mae’n ystrydebol. Rydw i’n gwirio’r rhyngrwyd ac yn darllen yn ddyddiol: ‘Heddiw, mae tri deg o ddynion sy’n perthyn i’r milisia sy’n cefnogi Rwsia wedi eu lladd, ac ugain o filwyr ym myddin yr Wcráin. A phum dinesydd sifil.’ Dyna sut mae’r diwrnod yn dechrau. Tydw i ddim yn meddwl y byddai o gymorth pe bawn i’n dal i siarad am hynny. Oherwydd rydw i’n credu mai cariad y mae pobl yn ei golli yn fwy na dim. Fallai mai dyma’r iaith yr hoffwn ddechrau ei siarad. Beth bynnag, heddiw, mae cymdeithas yn rhanedig dros ben ac mae pobl wedi eu heintio gan ddicter. Felly mae llawer o gasineb o’n cwmpas. Tydw i ddim yn meddwl bod modd ei goncro gyda geiriau bob dydd, gyda dadleuon bob dydd. Mae teuluoedd yn gwahanu, mae pawb yn ddig am yr Wcráin. Gwn am blant a gafodd eu hel o’u cartrefi oherwydd eu bod yn erbyn cyfeddiannu’r Crimea. Dyma natur yr amseroedd erchyll yr ydym yn byw ynddynt.

Cyhoeddodd yr awdur Ocsana Sabwsco [awdur Wcrainaidd a gefnogodd y protestwyr yn ystod meddiannu’r Maidan yn Kiev] lyfr yn ddiweddar wedi ei seilio ar yr holl destunau a gyhoeddwyd ar y we yn ystod y Maidan. Ysgrifennais yn [fy nghyfraniad i’r] llyfr y gellid traws-ffurfio’r holl bethau dychrynllyd a ddyfynnwyd ynddo – i bobl farw a chael eu cam-drin – un ai’n gasineb neu’n gariad. Fy mod yn dymuno’u gweld yn cael eu defnyddio er budd cariad. Dim ond cariad all achub y rhai hynny sydd wedi eu heintio gan ddicter. Ysgrifennais yn ogystal am yr Wcráin, am natur bywyd yn y Crimea a rhai pethau yn erbyn polisi Pwtin. Roedd darllen postiadau Rwsiaidd ar y rhyngrwyd wedi hynny yn ddigon i yrru ias drwof: roeddent yn fy melltithio. Nid dim ond y fi, serch hynny, ond llawer o bobl eraill hefyd. Macarefits, Acwnin ac Wlitscaia, pawb sydd wedi ymdrechu i ddweud rhywbeth yn erbyn Pwtin. Roedd yn gwbl erchyll gweld yr hyn oedd yn cael ei ddweud ar y we. Nid yw’n gofyn llawer i bobl yn llythrennol ddod allan i’r stryd i dynnu ei gilydd yn gareiau. Y fath gasineb ym mhobman. Rydw i’n meddwl y dylid siarad iaith wahanol bellach. Nid ceisio profi rhywbeth. Fallai fod raid gallu siarad am bethau plentynnaidd, fel cariad. Fedra i ddim dychmygu unrhyw iaith arall fyddai’n gwneud y tro, na fedraf. Does dim yn gweithio mwyach.

*

Mae fy nau lyfr nesaf, felly, yn brosiectau cwbl wahanol. Mae’r cyntaf yn llyfr am gariad. A’r nesaf, yr ail, am farwolaeth. Neu’n hytrach, beth am ddweud y bydd am y rhai hynny sydd ar lwybr angau – mae’r broses yn un hir; yn ymwneud felly â sut mae rhywun yn aeddfedu, sut y newidia ei bydolwg, sut mae ei ffordd o ymdeimlo â’r byd rywsut yn trawsnewid. Wedi’r cyfan, mae gwyddoniaeth wedi ymestyn ein bywydau o ryw ugain neu ddeg mlynedd ar hugain. Sut ydym yn delio â hynny? Rydym yn breuddwydio am anfarwoldeb ond, ar y cyfan, nid ydym yn delio’n arbennig o dda â’r blynyddoedd ychwanegol hyn. Dywedodd un o f’arwyr [arwyr mae Aliecsiefits yn galw’r rhai mae hi’n eu cyfweld] wrthyf unwaith fod henaint yn ddiddorol. Dydi fy mhrosiect yn ddim mwy na dilyn y trywydd i’r pen, ynghyd â phobl rwyf wedi eu cyfarfod yn y bywyd hwn. Eu dilyn, yn syml iawn, a chael y fraint, rywsut, o weld pob agwedd ar fywyd dyn. O’r dechrau i’r diwedd. 

Rydw i wedi bod wrthi’n ysgrifennu fy llyfrau o hyd a tydi unigolyn ddim o ddiddordeb i mi fel rhywun sydd yn perthyn i amser penodol yn unig. Rydw i wastad wedi bod â diddordeb yn yr hyn rydw i’n ei alw ‘y dyn tragwyddol’– yn yr hyn sy’n oesol yn y ddynoliaeth. Bellach, fy mwriad, oherwydd bod llai o lyfrau o’r math hwn, ydi archwilio ein bywydau nid o bersbectif hanesyddol ond o’r tu allan. Gallem ddweud, fel petai o’r cosmos. Dyna pam, i mi, mae anifeiliaid, planhigion a phobl wedi eu cysylltu mor agos â’i gilydd. Hynny ydi, popeth byw. Mi fyddwn i wir yn hoffi gallu gweld pethau yn y ffordd honno rwyf yn ei gwerthfawrogi gymaint yng ngwaith Albert Schweitzer. Ei barch tuag at fywyd. Pan ystyrir rhywun, nid fel Wcrainiad neu Felorwsiad, neu beth bynnag, ond fel rhywun sy’n meddu ar fywyd bywiol. Sydd yn rhywbeth yr ydym yn aml yn methu’n llwyr â’i barchu. Fel petaem yn gyfan gwbl anfarwol. Fel pe na bai gennym unrhyw nod ar wahân i wneud lle i Chernobyl arall yn rhywle. Neu Donetsk arall. 

[Mae ffôn yn canu.] 

Helô! Ljuda, rydw i ynghanol sesiwn ffilmio. Hwyl am y tro, mi wnaf ffonio yn nes ymlaen. Hwyl.  

Mae popeth wedi ei gysylltu â’i gilydd, wedi’r cyfan: y ddynolryw, anifeiliaid, adar, popeth byw, rywsut. Rydym yn anwybyddu hynny’n llwyr. Fel pe baem yn anfarwol. Fel pe baem wedi ein dwyn i’r byd hwn er mwyn gwireddu rhyw fath o nod iwtalitaraidd yn y presennol. Ond cawsom ein creu ar gyfer nod tra gwahanol. 

Teitl fy llyfr am gariad am y tro ydi, ‘Carw rhyfeddol yr helfa dragwyddol’. Mae wedi ei seilio ar linellau o waith gan yr awdur Rwsiaidd Alecsandr Grin. Roedd yn boblogaidd cyn y chwyldro. Mae’r teitl cymhleth yn cynnwys rhyw fath o ddyhead dwys, Rwsiaidd am gariad. Mae cymeriad y Rwsiaid yn hynod ddiddorol. Mae’n destun penbleth i mi o hyd, hyd yn oed pan mae pethau’n ymddangos yn normal. Hyd yn oed pan mae pethau’n ymddangos yn gadarnhaol, mae rhyw fath o ddyhead melancolaidd bob amser yn llechu yn rhywle. 

Dyna pam mae pobl yn gwirioni ar drenau – oherwydd mae modd eistedd am oriau mewn trên, yn edrych allan drwy’r ffenest. A dyna pam maent mor hoff o geir – oherwydd mae modd parhau i deithio ynddynt am amser hir iawn. Nid wyf wedi dod ar draws dim byd tebyg i hyn mewn diwylliannau eraill, ond mae’n sicr yn perthyn i’r Rwsiaid. Fallai ei fod yn gysylltiedig â daearyddiaeth gwlad mor enfawr. Mae’n hynod ddiddorol, ti’n gwybod.  

Felly hela rhywbeth … Ydi! Mae’n helfa dragwyddol … helfa sy’n mynd ar ôl rhywbeth arbennig, rhywbeth nad ydi’r ddynolryw erioed wedi llwyddo i ddal gafael arno. Wrth gwrs, mae’n naïf credu petai dim ond modd ei ddal a’i lusgo ymaith, yna byddai’r holl ’nialwch metaffisegol, y talpiau yma o fywyd … y byddai’n sydyn yn troi’n llyfr, yn ddarn o gelfyddyd. Wrth gwrs, mae’n gamsyniad naïf. Mewn gwirionedd, mae’n broses gynnil, araf, ac nid mor debyg â hynny i anifail ysglyf-aethus wrth ei waith. Mae’n gofyn am ymdrechion ysbrydol anferthol a llawer o ddealltwriaeth, ydi, llawer o alluoedd, yn arbennig galluoedd llenyddol a gwareiddiol. Mae’n dasg arbennig o gymhleth. Am y genre rwyf yn ei defnyddio, mae’n bodoli yn llenyddiaeth Rwsia a Belorwsia … ceir llyfrau … mae’r llyfrau yn ymwneud â’r rhyfel, yn fwy na dim; [cyfnod] pan oedd niferoedd aneirif o bobl wedi dioddef a’r teimlad llywodraethol oedd nad oedd unrhyw un, yn llythrennol, ddim hyd yn oed athrylith, yn gallu mynd i’r afael ag enbydrwydd y peth. Beth yw’r Ail Ryfel Byd, mewn gwirionedd? Wrth gwrs, roedd yn rhyfel cymaint mwy holl-gynhwysfawr nag oedd y rhyfeloedd Napoleonaidd, er enghraifft. A dyna pam y gwnaeth pobl geisio casglu ynghyd y deunydd newydd i gyd. Mi wnaethon nhw synhwyro bod y deunydd newydd hwn nid yn unig i’w ddarganfod ym mhennau’r elît neu’r arwyr rhyfel a gafodd eu clodfori. Gan i mi gael fy magu mewn pentref, y bobl ddi-nod oedd bob amser yn fy niddori, nid yr arwyr. Rydw i’n cofio’r hen wragedd yn y pentref …

Ar fy ngwir, roedd hynny’n wallgof o ddiddorol … ac mi roedden nhw’n bobl mor gymhleth, mor soffistigedig, ac mor arbennig o ddiddorol. Roedd yr hyn y gallai’r gwragedd hyn ddweud wrtha i’n bethau nad oeddwn erioed wedi darllen amdanynt mewn llyfrau. Er enghraifft, fy nain ar ochr fy nhad … roedd hi’n un ohonynt. Fy nod, yn syml, oedd [cofnodi] popeth yr oedd y bobl hyn yn ei ddweud wrtha i a’r hyn nad oedd neb wedi gwrando arno. Roeddent yn ronynnau o dywod mewn hanes. Y peth pwysig, wrth gwrs, oedd dal gafael ar yr ysgyrion cwbl athrylithgar ynddynt. Elfennau a fyddai, fel arall, yn diflannu gyda’u bywydau. Yr holl straeon nad oedd neb yn poeni amdanynt, ac a oedd gyda’i gilydd yn ffurfio hanes o emosiynau. Roeddwn am eu diogelu. Deallais y byddai’n rhaid i hyn droi’n un o’r ‘nofelau aml-leisiog’ – yn gof polyffonig. Dyna pam roedd angen pum cant, neu hyd yn oed fil, o leisiau ar bob llyfr. Roedd mil ohonynt ar gyfer The Unwomanly Face of War. Roedd llawer, llawer iawn hefyd ar gyfer Chernobyl Prayer. Ac ar gyfer Secondhand Time roeddwn i hefyd angen nifer fawr iawn o bobl. Mae rhywun yn dal ati i chwilio, yn llythrennol, am y tameidiau mân hyn – gronynnau o aur, a chreu mosaic ohonynt.  

Sut wyt ti’n llwyddo i gofio cymaint? [I Kajsa Öberg Lindsten, sy’n cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfweliad.] 

Gellir gwneud cymhariaeth â gwaith cerflunydd – mynegwyd y peth gan Rodin. Pan fyddai rhywun yn gofyn iddo sut oedd yn mynd ati i gerflunio, byddai’n dweud: ‘Rwyf yn cymryd blocyn o farmor ac yn mynd ati i gael gwared ar y darnau diangen.’ Mae hon yn egwyddor gyffredinol. Sut, o dryblith bywyd, i fynd ati i dorri ymaith, fesul tipyn, er mwyn cael hyd i ddelweddau neu strwythurau penodol. Iddo ef, cerfluniau oedd dan sylw. I rywun arall, fallai mai teml fyddai dan sylw. Ond rhaid i mi greu’r strwythur o eiriau, yr union strwythur yna. 

Mae realiti mor llawn cyfrinachau. I ddechrau, cymer di amser, sy’n llithro o’n dwylo’n barhaus. Mae’n anodd dros ben dal gafael ar bopeth, yn barhaus. Ti’n cytuno? Ei ddal ac yna ddod o hyd i ffurf iddo. Mae’n bwysig sylweddoli nad ydi pobl yn aml iawn yn ymwybodol o lawer o’r hyn sy’n bresennol yn eu pennau. Weithiau, pan mae rhywun yn tynnu i’r wyneb rywbeth oedd yn rhan o atgofion rhywun, mi fyddan nhw’n dweud: ‘Wyddwn i ddim hyd yn oed fy mod i’n gwybod hynny. Roeddwn i wedi ei anghofio i’r fath raddau. Dim ond pan wnaethoch chi ofyn i mi wnes i ddechrau meddwl amdano …’ Os am ddysgu rhywbeth newydd, rhaid gofyn mewn ffyrdd newydd. 

Heddiw, nid wyf yn teimlo fy mod yn cael fy sensro. Yr unig sensoriaeth fyddai’r math nad wyf yn ymwybodol ohono, rhywbeth na wn i amdano. Dyna’r unig gyfyngiad rydw i’n ei deimlo. Dyna pam mae cerddoriaeth, celf a hyd yn oed athroniaeth mor bwysig i mi. Fel ag y mae rhai llyfrau diddorol am wyddoniaeth. Holl ddysg dynolryw: mae’n gymorth gwybod ymhle i chwilio a beth i chwilio amdano. Er mwyn ein rhyddhau ein hunain o’r ystrydebol. Wedi’r cyfan, rydym yn byw wedi ein hamgylchynu gan ystrydebau y rhan fwyaf o’r amser. Rhaid rhyddhau ein hunain ohonynt. 

Ar y dechrau rydw i’n cychwyn â rhai greddfau am y llyfr – hynny ydi, syniadau. Syniadau sydd yn eithaf cyffredinol eu natur. ‘Merched yn rhyfela’, er enghraifft, neu ‘cariad’. Syniadau cyffredinol iawn ydi’r rhain. Yna rydw i’n mynd trwy’r deunydd mewn dyfnder. Mae’n golygu coflaid o gyfweliadau ac mi all y broses gymryd rhai blynyddoedd. Yn y diwedd, mae cannoedd o gyfweliadau, mae’n gyfnod o anhrefn. Byddai’n hawdd jyst boddi yn y miloedd tudalennau. Mae yna gynifer ohonynt. Miloedd o dudalennau, cannoedd o unigolion … rydw i’n dal i chwilio a chwilio, a meddwl, ac yna, yn sydyn, mae’n digwydd, fel petai o’i wirfodd ei hun. Yn sydyn, rydw i’n synhwyro’r llinellau i’w dilyn drwy’r holl eiriau. Rydw i’n gweld y patrymau pwysicaf. Yn aml, mae’n fater o sawl dwsin o straeon sylfaenol lle mae’r syniad, yr athroniaeth sydd eisoes yn ffurfio tu mewn i mi, yn dod o hyd i ofod cyffredin. Ac yna, mae’r syniad canolog yn ymddangos – sŵn y llyfr, fel rydw i’n arfer ei alw. Mae teitl yn dod i’r wyneb ac mae’r deunydd yn dechrau dod at ei gilydd. Ond, eto … ar hyd yr amser, hyd y foment olaf, hyd y byddaf wedi sgwennu’r atalnod llawn olaf, rydw i’n dal ati i weithio. Oherwydd, gall y naratif fod mewn cywair sy’n gofyn clirio rhywbeth mewn stori arall. Gall rhywbeth newydd fy nharo. Rydw i’n cofio’n sydyn i mi anghofio gofyn rhywbeth i rywun – ac rydw i’n dychwelyd i siarad â’r person hwnnw. Yn fyr, mae’n waith gwallgof o gymhleth … gwaith gwallgof! 

Wrth gwrs, mae yna ryw geidwadaeth. Ac mae yna gysyniadau megis llenyddiaeth a genres. Ac mae amseroedd newydd yn ennyn genres newydd. Mae fel petai dysg gyfredol yn cael trafferth mawr cyrraedd ato. Dim ond yn lled ddiweddar, er enghraifft, y daeth pobl i gydnabod barddoniaeth pros a derbyn barddoniaeth heb odl yn Rwsia. Hyd yn oed heddiw, mae yna rai yn dal i gwestiynu sut y gellir galw hyn yn farddoniaeth. Mae’r diwylliant yn dal i’w wrthsefyll, mewn mannau. Mae hynny’n gwbl arferol. Rywsut, tydi ymwybyddiaeth ddynol ddim yn llwyddo i gadw i fyny a does dim amynedd gan bobl. Tydyn nhw ddim yn barod i dreulio amser ar yr anawsterau hyn, ac maen nhw’n ymateb yn ddifeddwl.  

Mae gennym awdur clasurol, Ifan Shemyacin. Bu farw’n lled ddiweddar. Roedd wedi sylwi ar lwyddiant The Unwomanly Face of War ac ni fedrai oddef y llyfr. Felly mi gyhoeddodd: ‘Rydw i’n mynd i ysgrifennu nofel!’ Trodd y cyfan yn ffuglen aruchel ond, yn naturiol, doedd neb yn cael hynny’n ddiddorol. Digwyddodd yr un peth gyda Chernobyl. Bryd hynny hefyd, dywedodd rhywun: ‘Beth ydi ystyr hyn i fod? Fe ysgrifennaf i’r nofel!’ Ond mae popeth yn diflannu – tydi’r dwyster ddim yno, na’r teimlad ffefrus a’r synnwyr hwnnw fod gennym yma ffordd newydd o feddwl. Yr union beth sy’n rhoi i’r genre ei rym. Rydw i’n grediniol mai nofelau ydi fy llyfrau, ond ar ffurf arall. Nofelau ar ffurf lleisiau, dyna rydw i’n eu galw. 

Beth bynnag, mae pobl eisoes wedi cael eu twyllo, eu twyllo gan y teledu, drosodd a throsodd. Yn ogystal â chan lenyddiaeth. Yn ein gwledydd ni, roeddent wedi eu twyllo gan yr holl syniadau iwtopaidd yna. Dyna pam, heddiw, mae pobl am glywed am ddigwyddiadau ac amgylchiadau fel ag y maent mewn gwirionedd. Fel y gallant deimlo sicrwydd fod yr hyn y maent yn ei glywed heb gael ei weithio mewn rhyw ffordd, ei gaboli, ond yn cael ei ddisgrifio yn union fel ag yr oedd. Ac mae’n rhaid i’r awdur – yr awdures, yn f’achos i – asio’r cynnwys hwn â rhyw fath o strwythur llenyddol. A dyna’n wir ydi fy egwyddor i. Dilynais yr un egwyddor pan oeddwn yn ysgrifennu colofnau i’r Göteborgs-Posten. [Aeth Aliecsiefits i Göteborg, Sweden, ar ysgoloriaeth ddwy flynedd yn 2006–8, wedi ei chefnogi gan ICORN – International Cities of Refuge Network.] Boed hynny am wleidyddiaeth neu fywyd bob dydd, roeddwn i bob amser yn ysgrifennu o safbwynt unigolyn. Gan gynnwys y manylion bychain – gyda’i gilydd, maent yn ffurfio bywyd dyn. Yn go fuan, daeth ymateb cadarnhaol iawn. Oherwydd dyna’r pethau y mae pobl â diddordeb ynddynt. 

Anaml y mae rhywbeth a ddangosir ar deledu yn gallu cael ei alw’n ffilm, yn aml jyst ‘stwff’ ydi hynny. Fel y reportages, tydyn nhw ddim hyd yn oed wedi eu cynhyrchu’n gelfydd; maen nhw’n arwynebol dros ben. Yn aml iawn, ychydig maen nhw i wneud â realiti. Oherwydd nid yw ffeithiau yr un peth â realiti. Rhaid i realiti gael ei ddehongli, rhaid i realiti gael ei ddeall. Rhaid ei ddeall. Yn gyffredinol, mae ein hymwneud â realiti yn gymhleth iawn. Ceir realiti y gallwn ei weld. Ceir realiti y gallwn ei glywed. Ceir realiti na allwn ei weld na’i glywed, dim ond ei synhwyro. Mae gan bob unigolyn ei fersiwn ei hun o ddigwyddiadau. Rhaid nyddu ynghyd gynifer o wahanol edefynnau. Nid yw fyth mor syml â dim ond gosod darn o gyfarpar, ei roi ymlaen ac yna mae realiti yno, yn cael ei ddal … Na. Mae’r ymadrodd yn ddigon gwir: ‘Mae’r celwyddau gwaethaf un wedi eu dogfennu.’ Yn union felly: mae rhywun yn gosod y peiriant yn ei le ac yn ei roi ymlaen, dim mwy na hynny. Na, nid realiti mo hynny. 

Gall pawb gymryd yr hyn a ddymunant gen i. Ac mae pawb yn cymryd gan realiti yr hyn y mae ef neu hi yn gallu ei gael. Felly, tu hwnt i’r hyn a ysgrifennwn a’r hyn y tynnwn ei lun, mae personoliaeth yn ymyrryd. Dy bersonoliaeth ydi’r unig erial sydd gen ti, yr hyn rwyt wedi caniatáu iddo fod neu’r hyn mae dy nodweddion cynhenid wedi dy gynysgaeddu, trwy gyfrwng dy ddoniau – neu rywbeth ar hyd y llinellau hynny. Po dalaf dy erial, po fwyaf a pho gyfoethocaf y mae realiti i ti. Ac mi ddaw i fod hyd yn oed fwy fyth fel realiti … Na, does dim ffordd syml o’i chwmpas hi. 

Dywedodd ein bardd Rwsiaidd Joseph Brodsky rywbeth da iawn pan y’i holwyd, ‘Beth yw’r gwahaniaeth rhwng llenyddiaeth fawr a llenyddiaeth ganol y ffordd?’ Atebodd Brodsky: ‘Yn ei diddordeb yn y metaffisegol.’ A sut ydym i ddeall ‘y metaffisegol’? Mae’n golygu pan mae rhywun yn gweld yn ddyfnach. Mae ei bydoedd, ei gofod, enigmâu y byd yn rhan o hyn i gyd. Mae hi wedi ei goleuo mewn ffordd wahanol. Dyna lle mae’r gwahaniaeth. 

Published 31 July 2021
Original in Swedish
First published by Ord&Bild Nr 5 2017 / O'r Pedwar Gwynt (Welsh version)

© Svetlana Alexievich, Staffan Julén / Ord&Bild / O'r Pedwar Gwynt / Eurozine

PDF/PRINT

Read in: EN / SV / ES / DA / CY

Share article

Newsletter

Subscribe to know what’s worth thinking about.

Discussion