thanbeidrwydd crefyddol

Yr Anffyddwyr Newydd

Ydi hi’n amser troi’n ôl unwaith eto at yr ‘Anffyddwyr Newydd’ (New Atheists), fel y’u gelwid? Yn sicr mae Penguin Random House fel petaent yn meddwl ei bod hi’n bryd gwneud: yn gynharach eleni cyhoeddwyd ganddynt destun llawn y sgwrs adnabyddus honno ar ffydd a fu yn Hydref 2007 rhwng Daniel Dennett, Christopher Hitchens, Richard Dawkins a Sam Harris, yng nghartref Hitchens yn Washington DC. Mae teitl y gyfrol yn dod o ymadrodd a ddefnyddiwyd i gyfleu bri brawychus y pedwarawd hwn o ddeallusion eiconoclastaidd: The Four Horsemen: The Discussion which Sparked an Atheist Revolution. Ond mae’r penderfyniad i ystyried y digwyddiad hwn o’r newydd yn 2019 yn codi ambell gwestiwn. Ai post-mortem ydyw ar y ‘chwyldro aetheistaidd’ a ysgogwyd gan y sgwrs, ynteu un ymdrech olaf, fallai, i fanteisio ar lwyddiant masnachol sylweddol yr awduron hyn ar y pryd? Elfen o’r ddau, debyg iawn. Mae’n amlwg, beth bynnag, o ddarllen The Four Horsemen, bod y deunydd wedi dyddio’n gyflym, ac mae hynny’n codi cwestiynau pellach: sut y cafodd prosiect a oedd yn broblematig o’r dechrau, o safbwynt deallusol, gymaint o ddylanwad a hynny am gyhyd ac ar gymaint o bobl, a beth yw’r gwersi ar gyfer y rhai hynny sydd am adfer ‘gwyddor’ a ‘rheswm’ ar gyfer gwleidyddiaeth mwy cynhwysol a blaengar?

Ydi hi’n amser troi’n ôl unwaith eto at yr ‘Anffyddwyr Newydd’ (New Atheists), fel y’u gelwid? Yn sicr mae Penguin Random House fel petaent yn meddwl ei bod hi’n bryd gwneud: yn gynharach eleni cyhoeddwyd ganddynt destun llawn y sgwrs adnabyddus honno ar ffydd a fu yn Hydref 2007 rhwng Daniel Dennett, Christopher Hitchens, Richard Dawkins a Sam Harris, yng nghartref Hitchens yn Washington DC. Mae teitl y gyfrol yn dod o ymadrodd a ddefnyddiwyd i gyfleu bri brawychus y pedwarawd hwn o ddeallusion eiconoclastaidd: The Four Horsemen: The Discussion which Sparked an Atheist Revolution. Ond mae’r penderfyniad i ystyried y digwyddiad hwn o’r newydd yn 2019 yn codi ambell gwestiwn. Ai post-mortem ydyw ar y ‘chwyldro aetheistaidd’ a ysgogwyd gan y sgwrs, ynteu un ymdrech olaf, fallai, i fanteisio ar lwyddiant masnachol sylweddol yr awduron hyn ar y pryd? Elfen o’r ddau, debyg iawn. Mae’n amlwg, beth bynnag, o ddarllen The Four Horsemen, bod y deunydd wedi dyddio’n gyflym, ac mae hynny’n codi cwestiynau pellach: sut y cafodd prosiect a oedd yn broblematig o’r dechrau, o safbwynt deallusol, gymaint o ddylanwad a hynny am gyhyd ac ar gymaint o bobl, a beth yw’r gwersi ar gyfer y rhai hynny sydd am adfer ‘gwyddor’ a ‘rheswm’ ar gyfer gwleidyddiaeth mwy cynhwysol a blaengar?

Ymarweddiad rhethregol y gyfrol sy’n taro rhywun gyntaf: mae’n gymysgedd annymunol o ymrafael talog a hunanfoddhaus. Mae’n ddadlennol mai prif gonsyrn y pedwar ydi achub eu henwau da eu hunain fel cyrchwyr didwyll y gwirionedd a dinistrio’u gwrthwynebydd (dychmygol, i raddau helaeth). Pwnc cyntaf un eu sgwrs yw ‘tramgwyddo’. ‘Pam fod pobl grefyddol mor sensitif?’ holir gan y pedwar. A phaham fod pobl grefyddol o’r farn eu bod hwythau – yr aetheistiaid – yn ‘strident or arrogant or vitriolic or shrill’ pan mae’n amlwg mai bai’r crefyddwyr ydi’r cyfan? Meddai Dawkins: ‘The thing about religious people is that they recite the Nicene Creed every week,’ gan felly droi pobl at Gristnogaeth yn rhethregol, fel petai, ‘and yet they have the gall to accuse us of being overconfident.’ Adleisir hyn gan Dennett: ‘The religions have contrived to make it impossible to disagree with them critically without being rude.’ Ymateb Harris yw: ‘Our criticism is actually more barbed than that. We’re not merely offending people, we’re also telling them that they’re wrong to be offended.’ Meddai Dennett eto: ‘And there’s no polite way to say to somebody…’ Mae Harris yn siriol gwblhau’r frawddeg ar ei ran: ‘You’ve wasted your life!’

Cofier mai pedwar oedolyn sy’n methu’n lân â deall fod pobl yn eu galw’n haerllug yw’r rhain. Mae’r diffyg hunanymwybyddiaeth – mewn ysbryd gwrol bron – yn cyrraedd ei anterth ym mhle Hitchens fod pob hawl ganddynt i ‘chwerthin pobl o dwll eu ffydd’ anghyson. Yn wir, mae’n cyhoeddi, ‘I think we must.’

Tydi ‘laughing people out of their faith’ ddim yn swnio fel gweithgaredd cweit mor fawreddog a chanmoladwy ag y mae’r ymadrodd ‘New Atheism’ yn ei awgrymu, ond ar y cyfan, mae’n ddisgrifiad mwy agos ati. Heddiw, wrth i ni arsylwi ar weddillion y mudiad hwn, gweddillion sy’n mudlosgi, tebyg y byddwn yn pendroni am beth oedd yr holl ffwdan, a sut y llwyddodd yr awduron i adeiladu dynion gwellt mor enbyd o grefydd a hanes y ddynoliaeth, a hynny wrth werthu miliynau o lyfrau. Ond fu ‘New Atheism’ erioed am ffydd nag, yn wir, am atheistiaeth. Haeru goruchafiaeth diwylliant y gorllewin oedd ei bwrpas, er gwaethaf dylanwad hirymarhous crefydd mewn sefydliadau a chymdeithasau gorllewinol, a hynny er budd cyfiawnhau o’r newydd imperialaeth orllewinol. Does wahaniaeth bod tri o’r pedwar yn wreiddiol yn erbyn y rhyfel yn Irac, oherwydd yn fwy na dim, rhyfel yn erbyn Islam ei hun oedd eu rhyfel hwy.

Mae’r sgwrs yn darparu digon o dystiolaeth o hyn. ‘Is there any remote chance of a reformed, reasonable Islam?’ hola’r athronydd, Daniel Dennett – y dylid, ar bob cyfri, ei gofio fel yr un mwyaf cymhedrol a rhesymol o’r pedwar. ‘There is a conflict between Islam and modernity,’ ychwanega Harris, ac ‘you can find instances in the history of Islam where people weren’t running around waging jihad,’ ond roedd hynny ‘because they had successfully waged jihad.’ Mae cyfraniad Dawkins i’r pwnc hwn yn ddigon di-ffrwt a dof, er y byddai’n gwneud mwy na iawn am hynny yn y blynyddoedd i ddod trwy ddewis Islam (‘the greatest force for evil in the world today’) fel y prif darged ar gyfer ei hwyr-ymgorfforiad fel un o ellyllion y rhyngrwyd. Am Hitchens – a wnaeth gefnogi’r rhyfel yn Irac, ac a oedd yn dal i foli wrth allor ‘Saddam had WMDS’ adeg ei farwolaeth, yn 2011 – mae’n rhoi i ni’r safbwynt mwyaf swta a chofiadwy ohonynt i gyd: ‘I think it’s us, plus the 82nd Airborne and the 101st, who are the real fighters for secularism at the moment, the ones who are really fighting the main enemy.’

Does prin angen ei nodi, ond rhag ofn, dyma wneud: ceir troednodyn i roi gwybod i ni mai dwy adran milwyr traed llu awyr Byddin yr UD ydi’r ’82nd’ a’r ‘101st’, yn weithredol yn Irac ac Affganistan. Tydi ‘chwerthin pobl o dwll eu ffydd’ yn sydyn ddim yn ymddangos yn fenter cweit mor siriol – nid o ystyried mai bomiau clwstwr sy’n darparu’r ergyd.

Hyd yn oed yn eu hymdrechion llai afieithus i wawdio a dirmygu crefyddau ar wahân i Islam, neu ffydd yn gyffredinol, mae’r pedwar marchog hyn yn dangos diffyg craffter seicolegol syfrdanol – neu yn wir unrhyw ddiddordeb o unrhyw fath mewn ceisio deall bywyd mewnol eraill, onibai fel gwrthrych gwawd.

Ar ei waethaf, mae Dawkins yn hybu’r syniad nad ydi pobl grefyddol, yn y bôn, yn credu, dim ond yn ailadrodd fel mantra, ‘I do believe, I do believe, I do believe!’ Codir gwrychyn Dennett wrth glywed enw’r gwyddonydd Francis Collins, un o arweinyddion y prosiect Human Genome, y mae’n ei lambastio am feddwl ‘that on Sunday you can kneel down in the dewy grass and give yourself to Jesus because you’re in the presence of a frozen waterfall, and on Monday you can be a physical geneticist’. Tydi’r ffaith i Collins lwyddo i briodi ei ffydd grefyddol â’i waith fel gwyddonydd ddim yn gwneud i’r marchogion oedi o gwbl, does ganddyn nhw ychwaith ddim amser ar gyfer pobl sy’n cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i fod yn gymwynasgar – gwneud yr hyn sy’n iawn am y rhesymau anghywir yw hynny a phrin y dylid ei dderbyn, yn sicr ni ddylid ei annog. Mewn geiriau eraill, nid yw’r pedwar yn rhoi ystyriaeth o ddifri i’r posibilrwydd nad yw crefydd, rheswm a moeseg o reidrwydd yn nacáu ei gilydd, a bod y cyntaf wedi cyfrannu i ddatblygiad hanesyddol yr olaf. Fel y nododd yr ysgolor ar anffyddiaeth John Gray, ‘The idea, for instance, that humanity has a collective identity is fundamentally a religious notion – that’s how it came to us.’

Bron nad oes yna ryw naïfrwydd dengar tu ôl i osodiadau hyf y marchogion. Ym mydolwg y New Atheists, mae’r byd ffisegol wedi ei ddateglu i ni gan wyddoniaeth, ac felly, mae ffydd yn amherthnasol. Ond nid oes modd, a hynny mewn ffordd mor amrwd, echdynnu crefydd o’r cymdeithasol. Ysgrifennodd Jeff Sparrow yn y Guardian yn 2015, mewn darn ganddo ar y New Atheists:

If you investigate the material basis of religious belief, you immediately confront a phenomenon that operates on many different levels. In particular circumstances and particular settings a faith may function as a guide to morality, or an aesthetic, or a social network, or a collection of cultural practices, or a political identity, or a historical tradition, or some combination of any or all of those things.

Peth gwych ydi gwyddoniaeth ond ychydig o gymorth ydyw i ni gyda’r uchod. Yn ngeiriau bachog Gray, ‘The cumulative increase of knowledge in science has no parallel in ethics or politics,’ ac onid dyna broblem ganolog modernedd? Ac na, tydi hi ddim yn ddigonol cyfnewid ‘cysegredig’ am ‘lleyg’ bob tro yn nghasgliadau testunol hanes athroniaeth er mwyn datrys y broblem.

I gychwyn felly mae’r Pedwar Marchog yn ein hatgoffa bod y ‘New Atheists’ yn coleddu rhai syniadau digon du a gwyn. Mae hynny, unwaith eto, yn codi’r cwestiwn: sut y bu i fersiwn mor amrwd o wyddonyddiaeth y 18g brofi adfywiad mor bwerus mor hwyr yn y dydd? Mae un eglurhad posib wedi ei awgrymu uchod: wedi 9/11, roedd angen cyfiawnhad seciwlar ar y Gorllewin dros fynd i ryfel yn erbyn Islam – angen a oedd yn llai dwys ond a oedd eto’n bod yn yr UD hefyd, lle roedd Hitchens yn efengylu. Ond fallai bod yna ail set o resymau, yn gysylltiedig nid â’u syniadau ond â strwythur neu siâp eu dadleuon. Mewn ysgrif newydd ar gyfer y gyfrol, yn dwyn y teitl drwgargoelus ‘The hubris of religion, the humility of science, and the intellectual and moral courage of atheism’, mae Dawkins yn dyfynnu o erthygl gan Dennett a Deb Roy a gyhoeddwyd yn y Scientific American yn 2015, ar oblygiadau Darwinaidd ‘radical transparency’ wedi ei yrru gan y rhyngrwyd: ‘We can now see further, faster, and more cheaply and easily than ever before – and we can be seen. And you and I can see that everyone can see what we see, in a recursive hall of mirrors of mutual knowledge that both enables and hobbles.’

Caiff Dawkins gryn gysur gan hyn. Os ydi ‘quorum sensing’, fel y’i gelwir, yn medru rheoleiddio ymddygiad ymysg pethau mor syml â bacteria, rhesymir ganddo, yna mae cynnydd ym mhresenoldeb atheistiaid yn y byd cyhoeddus, a wneir yn weledol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, yn gallu arwain at ganlyniadau gwareiddiol. Yn sicr, mae’n casglu, ‘the rise of the New Atheism was enabled in large measure by this expansion of mutual knowledge.’

Cynhaliwyd y sgwrs hon rhwng y pedwar marchog pan oedd Facebook, YouTube a Twitter ond ar ddechrau. Ond yn go fuan, roedd llyfrau’r pedwar nid dim ond yn cael eu trafod mewn paneli ar y teledu ac mewn prifysgolion, ond hefyd yn cael eu croesawu gan genhedlaeth o ddefnyddwyr rhyngrwyd â set o daclau cyfathrebu rhyfeddol yn hanes y ddynoliaeth.

Mewn darn llawn perswâd ar gyfer Baffler, mae Alex Nichols wedi gosod New Atheism – a ystyrir fel difyrrwch gwrywaidd ac ar-lein yn bennaf – o fewn continwwm sy’n dechrau yn y cyfnod pan oedd byrddau neges y rhyngrwyd ar eu hanterth, yn y 1990au, ac yn arwain yn y degawd presennol at Gamergate a bri y provocateurs ceidwadol megis Stefan Molyneux a Ben Shapiroprovocateurs y mae eu baldordd yn haeru defnyddio RHESYMEG a RHESWM i DDINISTRIO eu gwrthwynebwyr (mae’r defnydd o lythrennau breision yn elfen sylfaenol o’r iaith gynhenid). Chwaraeodd un o’r marchogion rôl flaenllaw yn un o’r trosbwyntiau ar y continwwm hwn. Fel yr eglura Nichols:

In 2011, skeptic blogger Rebecca Watson described in a YouTube video how a male fellow attendee of an atheist conference had followed her into an elevator at 4AM in order to ask her on a date – behaviour that, understandably, made her uncomfortable. The community erupted into what was later remembered as ‘Elevatorgate’. A forum was created to harass Watson, and Richard Dawkins himself wrote a comment.

Mae’n cyfeirio at bostiad echrydus a gyfeiriwyd gan Dawkins at ffigwr dychmygol y ‘Muslima’, dyfais rethregol a ddefnyddiwyd ganddo i ddiystyru rhywiaeth sy’n rhan o brofiad merched yn y gymuned sgeptig/atheist a chymdeithasau Gorllewinol yn gyffredinol. Dyma ddarn o’r postiad:

Stop whining, will you. Yes, yes, I know you had your genitals mutilated with a razor blade, and…yawn…don’t tell me yet again, I know you aren’t allowed to drive a car, and you can’t leave the house without a male relative, and your husband is allowed to beat you, and you’ll be stoned to death if you commit adultery. But stop whining, will you. Think of the suffering your poor American sisters have to put up with.

Mae dynes rethregol yn ymddangos yn y gyfrol hefyd. Yn ei ysgrif, mae Harris yn gofyn i ni ddychmygu bod efeilliaid unffud (merched) yn cael eu geni ar y dydd hwn, ond â microseffali, yn Brasil, o ganlyniad i frathu’r fam feichiog gan fosgito sy’n cario’r feirws Zika.

Dychmygwch y ddynes hon rai misoedd yn ôl, yn gwneud popeth o fewn ei gallu i baratoi bywyd ffortunus i’w merched yn y groth. Lle mae hi’n gweithio? Mewn ffatri. Pa mor aml mae hi’n gweddïo? Yn ddyddiol, mae’n rhaid. Ond ar y foment dyngedfennol, mae hi’n cysgu. Fallai mai breuddwydio am fyd gwell na’r un rydym yn byw ynddo y mae. Dychmygwch fosgito yn dod i’w ffenest agored, yn glanio ar ei braich noeth. Wnaiff Duw hollalluog, hollwybodus, a hollhaelionus ei rwystro? Does dim hyd yn oed awel yn chwythu. Mae probosis y mosgito yn treiddio’i chroen yn syth. Beth mae’r ffyddlon i gredu ar y pwynt hwn? Tybiwn eu bod yn gwybod nad ydi eu Duw yn ymorol amdanynt hanner cymaint ag y byddai pe bai’n bodoli go iawn.

Mae’r portread hwn yn f’anesmwytho. Sut mae ei ddehongli? Ydi bodolaeth y mosgito a’r ffaith ei fod yn barod i frathu aelod o’r praidd yn profi nad ydi Duw y ddynes hon yn bodoli? Ydi’r ffaith bod y ddynes yn gweithio mewn ffatri yn gysylltiedig â’i ffydd? Ydi hi, yn ddiarwybod iddi, yn rhannol gyfrifol yn y pen draw am ei hanffawd, trwy wastraffu amser yn gweddïo yn hytrach na hyrwyddo darganfyddiadau gwyddonol a meddygol?

Mae’r cwestiynau hyn yn f’arwain at bwynt ehangach: lle’r oedd y tryloywder radical hwn a gyflwynwyd, fel yr haerir, gan y rhyngrwyd, y ‘mutual knowledge’ di-derfyn bron iawn hwnnw y mae Dawkins a Dennett yn ei weld fel modur cynnydd – lle ydoedd pan gonsuriwyd Muslima a’r ddynes o Brasil i ennill dadleuon yn erbyn ffeministiaeth a ffydd? Ai gwir ein bod yn byw mewn oes o ddealltwriaeth gymunedol ddofn? Neu a yw hi’n bosib, yn hytrach, bod offer ein cyfathrebu a’n ymholi cymdeithasol wedi eu siapio yn y fath fodd nes dim ond caniatáu ‘chwerthin pobl o dwll eu ffydd’?

Ystyrier Twitter, cyfrwng lle mae tri o’r pedwar marchog sy’n dal ar dir y byw yn mwynhau dilyniant torfol. Mae rhywbeth unigryw o iachusol am allu Twitter i gysylltu pobl â’i gilydd. Ond rhaid talu’n ddrud am yr argraff arwynebol hon a gawn bod rhwystrau cymdeithasol a daearyddol wedi eu dileu. Ar Twitter, does dim hanesion personol na chyfunol – dim ond ynganiadau. Gofod rhethregol pur ydyw sydd yn ffafrio dadlau yn hytrach nag ystyriaeth ofalus, a difrïaeth yn lle’r tir llwyd neu ysbryd o gytgord a chyd-ddealltwriaeth. Os ydi rhywun yn credu, fel y New Atheists, bod modd echdynnu’r cwestiynau mwyaf cymhleth o’u cyd-destun cymdeithasol a’u lleihau i’w helfennau cyferbyniol deuol, yna mae Twitter yn gyfrwng perffaith ar gyfer cyfleu syniadau. Dyma’r hyn a olygaf gan siap a strwythur y dadleuon New Atheist, sydd yn cyd-fynd yn berffaith â gweithrediad cyfredol y cyfryngau cymdeithasol. Trydarodd Dawkins unwaith: ‘I use language precisely & say exactly what I mean.’ Os ydi rhywun yn credu hynny am ei hun ac am iaith, yna wrth gwrs, mi fydd y rhyngrwyd yn ei ffurf bresennol yn ymddangos fel iwtopia o dryloywder cymdeithasol a chyd-ddealltwriaeth.

Yn ei ddarlith a draddodwyd yn 1927, ‘Pam nad wyf yn Gristion’, disgrifiodd Bertrand Russell gredo’r atheist: ‘We want to stand upon our own feet and look fair and square at the world – its good facts, its bad facts, its beauties, and its ugliness; see the world as it is, and be not afraid of it. Conquer the world by intelligence, and not merely by being slavishly subdued by the terror that comes from it.’

Hoffwn gredu bod hyn yn parhau’n dasg gwerth gweithio drosti, ond mae’n gofyn am newidiadau dwfn i’n hoffer cyfathrebu. Ar hyn o bryd, mae’r ffynnon lle rydym yn yfed wedi ei gwenwyno – gan ddefnyddio un o hoff drosiadau’r New Atheists – gan resymeg lledryw meddylfryd cynllwynio a chan ragfarn sy’n cyflwyno ei hun fel sgeptigiaeth. Mae yna resymau materol am hyn, i’w canfod yn y dirywiad cyson yn ein perthynas economaidd a chymdeithasol â’n gilydd. Ond mae concro’r byd trwy gyfrwng deallusrwydd hefyd yn gofyn am gynnydd yn ein gwybodaeth am ein gilydd.

Ar un adeg roedd y rhyngrwyd fel petai ar gael i’n cynorthwyo yn y dasg hon. Does dim dwywaith mai naïf oedd y safbwynt hwnnw, ond serch hynny mae gwerth mawr yn y ddelfrydiaeth a wnaeth y weledigaeth gyfunol honno’n bosib. Mae angen diwygiad radical yn y modd rydym yn siarad â’n gilydd. Nid oes lle i solidariaeth heb ddealltwriaeth, dim cynnydd heb gywreinrwydd gwirioneddol ynghylch pobl eraill, eu ffordd o fyw – a’r pethau maent yn credu ynddynt.

Published 4 March 2020
Original in English
Translated by Sioned Puw Rowlands
First published by New Humanist Summer 2019 (English version) / O’r Pedwar Gwynt (Welsh version)

Contributed by O’r Pedwar Gwynt © Giovanni Tiso / Sioned Puw Rowlands / New Humanist / O’r Pedwar Gwynt / Eurozine

PDF/PRINT

Read in: EN / CY

Published in

Discussion