Yr iaith a arhosodd ar drothwy’r Drws

‘Nid mewn geneteg iaith y mae’r tebygrwydd rhwng ieithoedd wedi ei wreiddio. Mae’n deillio o ddiwylliant, ac o ddatrysiadau cyffredin wrth brosesu gwybodaeth; mae gan bob un ei stori esblygiadol ei hun.’

— Daniel Everett, awdur How Languages Began (2017)

‘Ni ellir mynegi gwychder yn y Felarwsieg, mae’n iaith dlawd. Dim ond dwy iaith fawr sydd yn y byd – y Rwsieg a’r Saesneg.’

— Alecsandr Lwcashenca, Arlywydd Belarws

 

Yn blentyn, wedi tri mis yn aros mewn pentref ym Mholesia fe’m trawsnewidiwyd yn siaradwr Belarwsieg. Wedi i mi ddychwelyd i Minsc, at ei phicelli o flodau gladioliws, ei lifrai ysgol oedd yn arw fel papur tywod, a’r newspeak llawn rhegfeydd a ddeuai o enau fy nghyd-ddisgyblion, llwyddais serch hynny i synnu ffrindiau am gyfnod byr gyda’m trasianca1 – cymysgedd o Felarwsieg a Rwsieg. Ond fe lithrodd y Felarwsieg o fy ngafael yn bur fuan, fel tywod drwy hidlen. Aeth yn ôl i’r ddaear, y man lle y daeth ohono. Rwsieg a enillai bob tro. Er, mewn gwirionedd, pa fath o Rwsieg oedd Rwsieg yn nyddiau’r Undeb Sofietaidd? Iaith llyfrau ysgol, sloganau gwleidyddol, caneuon am ‘gyfeillgarwch rhwng pobloedd’, y Fam-Rodina, a’r Rhyfel Gwladgarol Mawr a ymladdwyd gan ein cyndeidiau – oll yn drewi o freuddwydio ofer, yr orfodaeth i anghofio, a difodiant diwylliannol.

Tu hwnt i bentref Polesia, byddwn weithiau’n clywed y Felarwsieg gan fy nhad. Byddai’n troi at ei famiaith yn ystod ei gyfnodau creadigol dan ddylanwad alcohol – y cyfnodau hynny pan ganiatâi iddo’i hun freuddwydio am ddod yn awdur – gan lithro i’r mofa2 yng nghwmni llenorion, y rhai yr oedd wedi casglu eu llofnodion ynghyd i’w harddangos â balchder mewn albwm cain. Byddai’r mofa yn baglu i mewn i’n fflat ar ôl hanner nos, mor feddw ag aelod bron-yn-awdur y teulu, yn hanner cwympo dros y trothwy, yn brifo’i hun wrth daro pethau yn y cyntedd, gan fynd yn sownd un tro yn yr ystafell ymolchi, heb fedru dod o hyd i ffordd o ddatgloi’r drws.

Roedd siarad mofa yn gwneud i’m tad deimlo fwy fel awdur, roedd yr iaith hon yn cario darnau o ddadleuon heb eu gorffen, jôcs, a straeon am orffennol a dyfodol y wlad a’i diwylliant. Roedd y cyswllt hwn a ffurfiwyd yn gynnar yn ystod fy mhlentyndod rhwng y Felarwsieg a’r broses greadigol mor gryf nes, hyd heddiw, pan glywaf rywun yn siarad yr hyfryd Felarwsieg llenyddol, rwy’n disgwyl yn reddfol iddynt estyn i mi lyfryn bychan o farddoniaeth neu gasgliad o straeon byrion. Mae mofa yn gyfystyr ag uchelgais ac ymdrech – er imi glywed yn aml rybuddion yn erbyn drysu rhwng y ddau.

Doedd uchelgais artistig fy nhad a’i fonologau ddim fel petaent yn cael llawer o effaith ar fy mam. Ni allaf gofio ei chlywed erioed yn siarad Belarwsieg. Rwsieg oedd iaith ail wraig fy nhad hefyd. Roedd hi’n Rwsiad i’r carn â’i thomenni hardd o blini a digonedd o fenyn arnynt, litrau o de, a silff lyfrau â ffenestr wydr i arddangos clasuron Rwsiaidd yn eu zal3 helaeth. ‘Zal yw’r ardal eistedd mewn theatr, Olya. Y gair cywir yw bolshaya komnata (ystafell fawr),’ byddai hi’n dweud wrthyf, yn ei ffordd nodweddiadol ddidactig, gan fy atgoffa nad oeddwn i, yn nhraddodiad iaith a diwylliant Rwsia, yn un o’r brodorion.

Byddai’n trin geiriau Belarwsieg fel losin o ryw ffatri dywyll mewn stryd gefn. Byddai’n archwilio’r papur lapio’n gwrtais, ac efallai’n cadw un yn ei cheg am eiliad, ond yna byddai’n ei boeri allan fel hen beth estron. Er mai dyma iaith y llenorion, yng ngolwg fy nhad, ni lwyddodd ei wraig newydd o Rwsia i ganfod lle i mofa yn ei ‘hystafell fawr’. Ni chaniatawyd i’r mofa gyrraedd ddim pellach na throthwy’r drws, a dyna lle byddai’n sefyll, yn oeri yn nhraed ei sanau, yn disgwyl am sliperi a fyddai’n ffitio – yn ddigon tebyg i minnau, a fyddai’n aml, rhwng un blini a’r llall, yn cael fy nghyflwyno’n ffurfiol i westai diwylliedig fel ‘merch o’r briodas gyntaf’. Ar ôl ymweld â byd yr ‘ystafelloedd mawr’ – gyda’i Volgas o de a’i Hermitages o blini – byddwn bob amser yn hiraethu am ddychwelyd ‘i’r ddaear’. Yn fy mhentref ym Mholesia, doedd ots gan neb pa iaith fyddai rhywun yn ei siarad. Ni allai fy mam-gu ddarllen nac ysgrifennu – yn ei hen basbort Sofietaidd, croes oedd ganddi’n llofnod. Ond doedd neb tebyg iddi am wrando.

A’m mam innau? Roedd ei theulu yn deulu ‘amlddiwylliannol’, chwedl pobl heddiw. Roedd rhai o’i pherthnasau’n dod o Tambof – pwnc a oedd yn destun chwerthin parhaus gan fy nhad, a fyddai’n hoff o atgoffa pawb o’r ymadrodd poblogaidd: ‘Mae blaidd o Tambof yn gymrawd i ti’ (ffordd sarcastig o wrthod sioe o gyfeillgarwch ffug), gan ensynio pwy oedd yn llawiach â phwy.4 Roedd rhan arall o deulu fy mam yn wreiddiol o ardal ffin orllewinol Belarws, y ffin aflonydd honno. Pa iaith siaradai ei thad? Does gen i ddim syniad. Roedd Taid Stanislaf yn ddyn araf ei ffordd, roedd yn hen, a’i gyfenw yn swnio fel cwrw – Kozel, sy’n golygu ‘bwch gafr’ – ac a drosglwyddwyd i’m mam fel ei henw cyn priodi (ffaith y byddai fy nhad hefyd yn ei gweld fel testun sbort). Erbyn imi ei gyfarfod, roedd fy nhaid eisoes yn glaf oherwydd cancr, yn llusgo’i draed fel injan stêm flinedig i lawr cyntedd fflat bychan yn Stolbtsi, yn pesychu, yn ysmygu, ac yn pesychu eto wrth suddo’n ddyfnach i orwel distaw ei orffennol. Cymerodd ddegawdau imi ddarganfod manylion arswydus ei flynyddoedd cynnar, manylion sydd mor nodweddiadol o wedd dywyll hanes Sofietaidd.

Cafodd ei dad, Ifan Frantsefich, ei arestio ar 23 Awst 1937, yn sgil cyhuddiad dienw (a ddarganfyddais ar ôl noson hir o ymchwilio yn fy man alltud presennol, sef Berlin). Ddeufis yn ddiweddarach, cafodd y gŵr ifanc 31 oed hwn ei ddienyddio yng ngharchar Slwtsc. Nodir ar ei gerdyn yn archifau Memorial fod troica Stalinaidd dienw wedi ei ganfod yn euog o dan Erthyglau 72 a 74 o god troseddol Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Belarws: ‘Mwstwr neu bropaganda yn cynnwys galwadau i ddisodli’r llywodraeth.’ Cyflwynwyd y dyfarniad yn Rwsieg – yr un iaith ag a ddefnyddiwn innau a’m cyd-ddisgyblion, hanner canrif yn ddiwedd-arach, i ganu caneuon am heddwch, cyfeillgarwch rhwng pobloedd, y Famwlad, a’r Rhyfel Gwladgarol Mawr a ymladdwyd gan ein cyndeidiau.

Ymddengys yn hurt mai tad i bedwar o blant bach, oedd â dim ond addysg elfennol, a gyhuddid o gynllwynio chwyldro. Ond gweithiai’r weinyddiaeth Sofietaidd yn ôl ei rhesymeg ei hun. Gallai unrhyw ffaith fechan yn eich bywgraffiad godi amheuaeth a chostio’ch rhyddid. Mae’n ymddangos yn anhygoel i mi heddiw ond, gan mlynedd cyn fy ngeni, roedd Ifan wedi croesi’r Iwerydd ar y llong Brydeinig Aquitania. Roedd hefyd wedi gweld y symbol o ryddid y breuddwydir amdano gan Felarwsiaid hyd heddiw: y Statue of Liberty. Wedi iddo ddychwelyd adref, roedd hynny’n ddigon, yn llygad ei Famwlad, i’w ystyried yn ysbïwr.

Ychydig ddyddiau cyn dienyddio fy hen daid, roedd mwy na chant o aelodau o ddeallusion Belarws wedi dioddef yr un ffawd. Fe’u claddwyd ar frys yn fforest Cwrapati ger Minsc, a hyd heddiw, erys eu cyrff yno heb gydnabyddiaeth na chof cenedlaethol, gan nodi dechrau ethnoladdiad diwylliant ac iaith gyfan. Gam wrth gam, diflannodd mofa o’n hysgolion, o’n papurau newydd, o’n theatrau a’n llyfrau, gan gadarnhau statws un iaith yn unig – y Rwsieg – am dros ddwy genhedlaeth. Wedi’r protestiadau yn 2020, a ysgogodd donnau newydd o orthwm, gadawodd llawer o’r siaradwyr Belarwsieg olaf y wlad am Wcráin, Gwlad Pwyl, Georgia neu’r Almaen. Derbyniodd y rhai a arhosodd ar ôl fod rhaid atgyfodi tac-tegau goroesi o gyfnod meddiannaeth ffasgaidd y 1940au a mynd ‘dan ddaear’.

‘Rwy’n dymuno credu na fydd pobl yn derbyn yn ddistaw gael eu trefedigaethu,’ meddai ffrind a oedd, tan yn ddiweddar, yn byw ym Minsc. ‘Mae rhai yn dal ati o hyd i siarad Belarwsieg bob dydd,’ meddai, ‘yn anffodus, tydw i ddim yn eu plith – ond rydw i’n ceisio dweud cali lasca (os gwelwch yn dda) a dtsiacwi (diolch) mewn siopau a banciau. Yn aml, mae dieithriaid llwyr yn gwenu arnaf yn gynnes. Gall hyn ymddangos yn ddibwys i rai, yn rhyfedd, hyd yn oed. Sut gall rhywun ofni siarad ei famiaith ei hun? Ond mae’n bwysig. Dyna sut rwy’n mynegi fy ngwrthwynebiad, fy nghyfraniad tawel, personol i’r frwydr yn erbyn Rwsieiddio parhaus.’

A oes gan ddistawrwydd ei iaith ei hun, tybed? Ac os oes, beth yw hi? Ai hon yw iaith y Rwsiaid a barlyswyd, wedi eu llyncu gan bropaganda Sofietaidd prennaidd – yn barhaol ifanc, yn barhaol ddewr, yn barhaol lwyddiannus wrth ddisodli gwirioneddau tywyll byd Dostoiefsci ag ‘eilydd’ llawen, paradwyZ5 ffug (gweler yr esboniad ar y ‘Z’ yn y blwch ar y dudalen flaenorol)? Neu ai’r mofa yw hi – wedi ei chladdu yn atgofion plentyndod gwledig un a oedd unwaith bron iawn â llwyddo yn y ddinas, yn y byd academaidd, yn fyd-eang; yr hyn a daniodd freuddwyd fy nhad o ddatblygu’n awdur – cyn i’r ymerodraeth o ‘gymrodyr’ ei ddi-wyllio, cyn iddo roi’r gorau i siarad â mi mewn unrhyw iaith, cyn marwolaeth fy mam-gu (nad oedd yn medru darllen nac ysgrifennu, ond a wyddai sut i wrando’n well na’r un ohonom), cyn i Felarwsiaid ddechrau cael eu harestio ar y ffin wrth ddychwelyd o Ewrop i angladdau teuluol, cyn i lyfrau mewn mofa gael eu labelu yn ‘eithafol’, cyn i ni sylweddoli bod hanes, fel y nododd Karl Marx, yn wir, yn ailadrodd ei hun – yn gyntaf fel trasiedi, ac yna fel ffars?

‘Trasianca’ yw’r term am iaith lafar gyffredin ym Melarws sy’n cymysgu’r ieithoedd Belarwsieg a Rwsieg. Fe’i nodweddir gan eirfa a seiniau Belarwsieg, er bod rhai geiriau’n tarddu o’r Rwsieg. Fe’i siaredir yn aml mewn ardaloedd gwledig, neu ymhlith siaradwyr nad ydynt yn rhugl yn y naill na’r llall o’r ieithoedd safonol. Daeth trasianca i’r amlwg o ganlyniad i bolisïau ieithyddol y cyfnod Sofietaidd, trefoli cyflym, a goruchafiaeth y Rwsieg ym myd addysg a’r cyfryngau.

‘Mofa’ yw’r gair am iaith yn y Felarwsieg a’r Wcreineg. Mae hefyd, o safbwynt diwylliannol neu wleidyddol, yn symbol o hunaniaeth genedlaethol, o ddygnwch diwylliannol, a gwrthsafiad yn erbyn cymhathiad Rwsiaidd. Yn Belarws, gall yr ymadrodd ‘siarad Belarwsieg’ adlewyrchu safbwynt gwleidyddol, neu gynrychioli penderfyniad personol. Yn aml, mae’n gysyll-tiedig ag ystyron sy’n mynd y tu hwnt i’r defnydd ieithyddol yn unig.

Mewn Rwsieg Belarwsiaidd, defnyddir y gair ‘zal’ fel arfer i gyfeirio at yr ystafell fwyaf mewn fflat – yr hyn a elwir yn ‘ystafell fyw’ neu ‘ystafell eistedd’ mewn Rwsieg safonol. Daw’r defnydd hwn o derminoleg tai’r cyfnod Sofietaidd, ac fe’i hatgyfnerthir gan y gair Belarwsieg ‘zala’, sy’n golygu ‘neuadd’ neu ‘ystafell fawr’. Er nad yw’n air safonol, mae wedi gwreiddio’n ddiwylliannol.

Mae’n debyg bod yr ymadrodd ‘blaidd o Tambof yw dy gymrawd’ yn tarddu o Wrthryfel Tambof yn 1921, pan laddodd y Sofietiaid rhwng 30,000 a 50,000 o bobl leol yn sgil terfysg mawr yn erbyn y Bolsieficiaid. Cafodd y gwrth-ryfel ei atal drwy gipio aelodau teulu’r gwrthryfelwyr fel gwystlon, dinistrio pentrefi cyfan, sefydlu gwersylloedd crynhoi lle cedwid plant ochr yn ochr ag oedolion, a thrwy ddienyddiadau torfol. Roedd mwy na 450 o’r gwystlon a gymerwyd dan ddeg oed. Mewn adroddiadau milwrol ar ganlyniadau’r ymgyrch, cyfeiriwyd at y bobl leol fel ‘deunydd dynol anghydsyniol’. Daeth yr ymadrodd ‘blaidd Tambof’ yn rhan o eirfa’r Undeb Sofietaidd fel disgrifiad o bobl wrthryfelgar, o ddrwgweithredwyr a ddiarddelwyd.

Oddi ar 2022, defnyddiwyd y llythyren ‘Z’ o’r wyddor Rufeinig gan lywodraeth Rwsia a chefnogwyr y rhyfel yn Wcráin fel symbol o deyrngarwch i oresgyniad llwyr y Cremlin ar Wcráin. Er nad oes ganddi ystyr uniongyrchol yn yr wyddor Gyrilig, mae’n ymddangos yn aml ar gerbydau milwrol ac wedi dod yn arwyddlun propaganda, a arddangosir yn eang mewn mannau cyhoeddus, mewn ysgolion ac ar y cyfryngau i ddangos brwdfrydedd cenedlaetholgar a chydymffurfiaeth ideolegol.

Published 20 October 2025
Original in English
First published by Eurozine (English version); O’r Pedwar Gwynt (Welsh version)

Contributed by Institute for Human Sciences (IWM) © Olga Bubich / Institute for Human Sciences (IWM) / Eurozine

PDF/PRINT

Read in: EN / CY

Published in

Share article

Newsletter

Subscribe to know what’s worth thinking about.

Discussion