Y Cleddyf deufiniog

Diwylliant woke, rhyddid barn a’r lleiafrif Cymraeg

Un o storïau mawr y degawd diwethaf yw dylanwad gwleidyddiaeth hunaniaeth ar y byd gorllewinol. Mae’r wleidyddiaeth hon yn bodoli ar y lefel theoretig yn ogystal ag mewn polisi cyhoeddus, ond hefyd yn llai cynnil mewn diwylliant poblogaidd. Yn aml, cyfeirir at y mynegiant poblogaidd, neu bopiwlistaidd, o rai o’r syniadau hyn fel agweddau woke. Mewn gwirionedd, nid yw hynny’n hollol deg gan fod woke dipyn yn lletach na gwleidyddiaeth hunaniaeth, ac yn dwyn ato’i hun hefyd nifer o agweddau dadleuol, megis tueddiad tuag at gyfyngu ar ryddid barn.

O ganlyniad, mae’r naill ochr a’r llall yn y drafodaeth yn priodoli iddo ystyron gwahanol: y naill yn ei gyfystyru â chyfiawnder cymdeithasol a’r llall yn gweld ynddo berygl totalitariaeth ddeallusol. Ond nid yw’r canfyddiadau hyn yn gwrth-ddweud ei gilydd. Cleddyf deufiniog yw’r mudiad woke sydd o les ac afles i’n diwylliant; yn gadarnhaol, wrth hyrwyddo buddiannau rhai lleiafrifoedd, ac yn negyddol, wrth gyfyngu ar ryddid barn.

Cymhlethir y cwbl yng Nghymru gan fod cyd-destun y Gymraeg mor wahanol i un yr Unol Daleithiau ble tyfodd y mudiad. Ac eto, ni fu, hyd y gwn i, ymgais i ystyried effaith benodol yr ymagwedd woke ar y gymuned Gymraeg, o gofio fod ganddi, fel cymdeithas ieithyddol frodorol leiafrifedig, nodweddion all fod yn dra gwahanol i’r rheini sy’n teyrnasu yn y byd Saesneg.

Yn y Gymru Gymraeg, mae’r mudiad woke wedi bod yn ddigon pwerus i fedru ailfathu rhannau helaeth o ddiwylliant Cymraeg cyfoes ar ei lun ei hun. Ond oherwydd diffyg grym cymunedau ieithyddol lleiafrifol yn y broses ryngwladol o greu syniadau a disgyrsiau newydd, mae perthynas y byd Cymraeg â syniadau o’r tu allan yn un ddibynnol yn hytrach na chyd-ddibynnol. Mae traddodiad deallusol y Cymry Cymraeg yn seiliedig ar iaith ond nid yw iaith yn cael lle pwysig yn epistemeg y rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin, ac nid yw’n ganolog i wleidyddiaeth flaengar y byd Angloffon. O ganlyniad, bu perthynas rhai o syniadau’r mudiad woke â’r byd Cymraeg yn amwys, ac ar adegau yn niweidiol.

Felly, er mai ffurf ar wleidyddiaeth hunaniaeth yw’r diwylliant woke yn ei hanfod, gellid ei feirniadu o safbwynt gwleidyddiaeth hunaniaeth hefyd, sef hunaniaeth y lleiafrifoedd hynny nad
ydynt yn cael cymaint â hynny o sylw gan y byd Angloffon. I’r dosbarth hwnnw y perthyn y lleiafrif Cymraeg. Dyma lle mae anoddefgarwch syniadol y mudiad woke ar ei fwyaf peryglus. Gall ddifetha’r drafodaeth ddeallusol sy’n unigryw i ddiwylliannau ieithyddol lleiafrifedig brodorol. Gall ei gwneud yn anodd, ac ar adegau yn amhosib, i feddwl yn annibynnol mewn ffordd Gymraeg.

Mae natur arwynebol y cyfryngau cymdeithasol, bob un ohonynt wedi’u gwreiddio yn y byd Eingl- Americanaidd, wedi dwysáu’r broblem hon. Yno, ymosodid ar Gymry yn gyson ped aent yn groes i safbwyntiau a welid fel rhai a goleddid gan y mudiad woke, a châi nifer eu cywilyddio a’u hesgymuno. ‘Canslo’ oedd y term am hyn, dileu rhywun o fywyd cyhoeddus ar sail eu syniadau. Yma, mae’n rhaid imi ddatgan buddiant gan i hynny ddigwydd yn fy achos i. Bu ymdrechion ar y cyfryngau cymdeithasol i’m ‘canslo’ adeg cyhoeddi fy llyfr am amrywiaeth ethnig yn y Gymru Gymraeg, Hanes Cymry, gan imi fynd yn groes i rai o ragdybiaethau cudd y byd Angloffon wrth drafod gwleidyddiaeth ddiwylliannol mewn cyd-destun Cymraeg.

Un arall gafodd ei ‘ganslo’ oedd Dan Evans, ac o ganlyniad ni fu fawr ddim trafod ar y gyfrol a olygodd gyda Huw Williams a Kieron Smith, The Welsh Way: Essays on Neoliberalism and Devolution, un o’r llyfrau pwysicaf i’w gyhoeddi ers datganoli. Camwedd waelodol Dan Evans oedd mynegi amheuaeth ynghylch gwleidyddiaeth hunaniaeth oherwydd ei gred mai dosbarth cymdeithasol yw’r grym pennaf mewn cymdeithas. Byddai’n deg dweud fod y ddau ohonom wedi ysgrifennu mwy mewn cyd-destun Prydeinig ers yr ymgais i’n canslo yng Nghymru, a hyfryd yw gweld Dan Evans yn llwyddo â chyfrolau gwych megis A Nation of Shopkeepers: The Unstoppable Rise of the Petite Bourgeoisie sydd wedi dod â chydnabyddiaeth iddo fel un o ddeallusion y Chwith ym Mhrydain. Un o sgileffeithiau anorfod y diwylliant canslo yw fod rhaid i bobl droi wedyn at ysgrifennu yn Saesneg, neu am y byd tu allan i Gymru, neu dewi. Wedi’r cwbl, pa ddiben sydd mewn cyhoeddi llyfr yn y Gymraeg, neu am Gymru, os yw pobl yn mynd allan o’u ffordd er mwyn sicrhau nad yw’n cael sylw? Bu llai o gyhoeddi syniadol am y byd Cymreig a Chymraeg mewn blynyddoedd diweddar a hwyrach fod a wnelo anoddefgarwch, a gwrth-ddeallusiaeth gyffredinol, y cyfnod presennol â hyn.

Yng nghyd-destun rhyddid barn, mae’n gyfnod ansicr yng Nghymru felly. Mae canfyddiad gweddol eang ymysg rhai mai dim ond rhai mathau o lenyddiaeth, neu rai safbwyntiau ideolegol, sy’n debyg o gael gwrandawiad teg bellach. Yn ddiddorol, nid syniadau adain dde yn aml yw’r rhai sy’n cael eu diarddel ond dadleuon a gysylltir yn hanesyddol â’r Chwith, ond nid yw’r Chwith woke yn cytuno â nhw neu yn eu gweld yn bwysig.

Dyma’r rheswm efallai y ceid diffyg dealltwriaeth a pheth dicter ynghylch y penderfyniad y llynedd i ddwyn cymhorthdal Planet i ben gan y Cyngor Llyfrau. Wedi’r cwbl, cyfnodolyn deallusol y Chwith Gymreig yw Planet, nid un o arfau propaganda Donald Trump. Ac eto daeth i ben, ac yn y rhifyn olaf crynhodd John Barnie bryderon llawer am y sefyllfa bresennol:

Who holds the purse-strings calls the shots. The demise of Planet (along with New Welsh Review) raises questions for me about the nature and purpose of public funding of the arts. In my view, funding bodies should be responsive to the quickening life and ideas of people within the arts. […] The temptation for funding bodies, however, is to act as social engineers, shaping culture themselves through the disbursement of grants to ‘approved’, which is to say fashionable, causes. That, I fear, is what is happening in Wales today.

Ym maes llenyddiaeth Gymraeg hefyd, bu anniddigrwydd. Codwyd amheuon am gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, yn rhannol oherwydd rhoi’r sac i Martin Shipton fel beirniad yn 2020, a hefyd oherwydd ansicrwydd ymysg rhai ynghylch faint o arbenigedd oedd gan rai beirniaid yn y meysydd roeddynt yn eu beirniadu. Er na fu pob beirniad yn coleddu safbwyntiau woke, prin oedd y lleisiau ‘ceidwadol’ ar y paneli beirniadu, a bu anghydbwysedd amlwg o safbwynt gwleidyddiaeth ddiwylliannol. Roedd y dewis o feirniaid hefyd yn anghytbwys o ran adlewyrchu’r gynulleidfa Gymraeg. Er enghraifft, o blith yr ugain beirniad Cymraeg rhwng 2020 a 2024, doedd neb dros 65 oed. Dyna’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o arddel gwerthoedd Cymraeg ‘traddodiadol’, wrth gwrs.

Cymysg yw’r farn am gorff fel Llenyddiaeth Cymru sydd yn chwarae rôl weithredol mewn gwleidyddiaeth hunaniaeth: mae rhai pobl ifanc yn ei ganmol am roi cyfle iddynt tra bod rhai awduron yn credu ei fod yn darparu ar gyfer un rhan o’r byd llenyddol Cymraeg yn unig. Gan gofio am wreiddiau’r corff yn yr Academi Gymreig, oedd yn llais effeithiol i lenorion, mae’n drueni nad oes mwy o bwyslais ar gefnogi awduron yn ymarferol. O dair blaenoriaeth Llenyddiaeth Cymru, dim ond un ohonynt, sef cynrychiolaeth a chydraddoldeb, sy’n ymddangos yn greiddiol i lenyddiaeth, tra bod y ddwy arall – iechyd a llesiant a’r argyfwng hinsawdd – yn fwy ymylol i lên. Prif nod Llenyddiaeth Cymru yw ‘ysgogi newid mewn cymdeithas drwy lenyddiaeth’, sy’n wahanol iawn i ‘gefnogi llenyddiaeth’. Mae’n iawn gofyn beth sy’n digwydd i fathau o lenyddiaeth, neu gategorïau o lenorion, nad ydynt yn ‘ysgogi newid mewn cymdeithas’, neu nad ydynt yn gwneud hynny mewn dull cymeradwy.

Serch hynny, mae’n bwysig cydnabod fod y cyrff hyn, a Llenyddiaeth Cymru yn fwy na neb, wedi gwneud gwaith rhagorol yn ehangu mynediad i lenyddiaeth ar gyfer lleiafrifoedd ethnig, yn sicrhau llwyfannau i weithgareddau LHDTC+, ac wrth ymestyn allan at rai grwpiau eraill sydd wedi cael eu tangynrychioli. Ond mewn meysydd nad oes a wnelont â’r agenda cydraddoldeb a chynrychiolaeth, mae angen sicrhau fod y byd llenyddol Cymraeg yn fwy agored i amrywiaeth barn, gan fod y Gymraeg, wedi’r cwbl, yn perthyn i bawb. Mae’r diwylliant Cymraeg mor ddibynnol ar nawdd cyhoeddus nes bod penderfyniadau gan sefydliadau sydd â monopoli ar weithgarwch diwylliannol yn gallu cael effaith ar ecosystem y Gymraeg yn ei chyfanrwydd. Mae’n hanfodol i iechyd diwylliannol fod llenorion ac artistiaid yn gallu dweud beth fynnan nhw, hyd yn oed pan mae hynny’n mynd yn groes i reddf sefydliad, cyngor, academi neu gorff noddi. Nid ydym am fyw mewn gwlad lle mae pobl ofn mentro rhag tramgwyddo. Mae precarity economaidd yn cyfrannu at y pryder hefyd gan mai gweithwyr llawrydd yw llawer yn y sector, ac maent yn hynod ddibynnol ar benderfyniadau sefydliadau er mwyn cael gwaith neu grant.

Mae bron pawb sy’n ysgrifennu llyfr Cymraeg heblaw awduron llawrydd yn gwneud hynny’n wirfoddol gan wneud colled ariannol mewn termau real. Llafur cariad yw’r llenydda ac ni ddylid bod yn pwysleisio o hyd y ddyletswydd i ddilyn trywydd ideolegol neilltuol. Rhaid gadael i lenorion ganfod eu llais eu hunain. Os bydd awduron yn amau nad ydynt yn cael chwarae teg oherwydd gofynion gwleidyddiaeth ddiwylliannol, yna’r peth mwyaf tebygol yw eu bod yn rhoi’r ffidil yn y to. Bydd llai yn prynu llyfrau hefyd, wrth gwrs.

I raddau cynyddol, ymdebyga strategaethau ein cyrff diwylliannol i strategaethau cyrff Seisnig cyffelyb, ac mae hyn yn ei gwneud yn anos llunio atebion ar gyfer y diwylliant Cymraeg.
Mae fel pe bai ein sefydliadau llenyddol wedi anghofio fod siaradwyr Cymraeg yn lleiafrif. Gall llenor yn Lloegr sy’n ysgrifennu am bynciau anffasiynol oroesi heb nawdd cyhoeddus am y bydd gwerthiant llyfrau yn ei gynnal. Ond nid yw hyn yn wir am lenor Cymraeg. Yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ysgrifennu yn y Gymraeg, mae pob llenor Cymraeg, hyd yn oed os yw’n perthyn i’r mwyafrif o ran ei nodweddion gwarchodedig, yn llenor lleiafrifol. Mae diwylliannau lleiafrifol eraill yn deall fod pob carfan yn y gymuned leiafrifol yn haeddu rhyw wedd ar gefnogaeth. Ond rywsut, mae’r gydnabyddiaeth hon wedi mynd yn angof yng Nghymru, a rhaid gofyn felly, pwy sy’n darparu ar gyfer y lleiafrif Cymraeg?

Rhan o’r broblem yw mai rhyw fath o multinational syniadol yw gwleidyddiaeth ddiwylliannol gyfoes a’i thuedd naturiol yw cyfeirio’n ôl yn barhaus at y brif swyddfa yn yr Unol Daleithiau neu Loegr yn hytrach na meithrin ffordd unigryw o wneud pethau yng Nghymru. Yn y gwaith pwysig o hybu amrywiaeth yn y byd llyfrau plant, er enghraifft, mae’r pwyslais bron i gyd ar gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg, yn hytrach nag o’r Gymraeg i’r Saesneg, fel pe bai angen goleuo darllenwyr Cymraeg mewn modd nad yw’n wir am ddarllenwyr Saesneg. Mae hyn am fod rhagdybiaethau am natur cydraddoldeb yn cael eu seilio bob tro ar epistemeg Saesneg yn hytrach na Chymraeg.

Mae’n hynod ddadlennol hefyd nad oes unrhyw gynllun i gyfieithu gweithiau academaidd Cymraeg i’r Saesneg fel pe na bai gennym ddim i’w gynnig yn syniadol. Mewn gwlad o wobrau, nid oes unrhyw wobr ar gyfer llyfrau ffeithiol neu syniadol ychwaith. Nid yw llyfrau academaidd Cymraeg yn gymwys mwyach ar gyfer Llyfr y Flwyddyn, a’r tu allan i’r Adrannau Cymraeg ac ambell outpost arall, derbyniad oer a gânt gan brifysgolion sy’n ddilornus o werth deallusol cyfrolau Cymraeg yn gyffredinol. Mae rhywbeth Matthew Arnoldaidd am ddiwylliant Cymru heddiw, gyda gweithiau Saesneg y metropolis yn diffinio’r tir uchel syniadol a’r Cymry yn cael llunio gwaith creadigol yn unig. A’r llên yn dilyn canllawiau sydd wedi eu mewnforio.

Mae gwleidyddiaeth ddiwylliannol Angloffon wedi newid ein geirfa, hyd yn oed. Mae’r metropolis yn diffinio ar ein cyfer allweddeiriau cyfoes megis amrywiaeth, cynwysoldeb, ethnigrwydd, lleiafrif, lleiafrif ethnig, trefedigaethu, dad-drefedigaethu, brodorol, braint, ac yn y blaen. Mae gan y rhan fwyaf o’r geiriau hyn ystyron ychydig yn wahanol yn nhraddodiad deallusol y Gymraeg, ac mewn rhai achosion mae’r diffiniadau Angloffon newydd nid yn unig yn eu disodli ond hefyd yn eu hannilysu. Enghraifft o hyn fyddai’r gair ‘brodorol’, sydd yn y traddodiad Cymraeg yn gyfeiriad at gyfanheddiad grŵp iaith lleiafrifedig ar ei diriogaeth hanesyddol yn hytrach nag yn ymdrech i allgáu unigolion ar sail hil. Un arall yw ‘dad-drefedigaethu’, cysyniad a ddefnyddid mewn theori lenyddol Gymraeg ers degawdau, megis yng ngwaith R M Jones, i olygu Cymreigio Cymru, ond yn sydyn, newidiwyd ei ystyr i gyfleu ei wrthwyneb, sef cydnabod a dad-wneud rôl ormesol Cymru fel trefedigaethwr, ac yn yr ystyr honno yn unig y’i defnyddir gan sefydliadau bellach.

O ganlyniad, trinnir y Gymraeg mewn modd anghymesur, megis yn y drafodaeth am Batagonia. Pardduir y Wladfa fel settler colony. Ond settler colony yw America yn ei chyfanrwydd, ac ni fu dim protestiadau gwrth-drefedigaethol pan gynhaliwyd cyngerdd Taylor Swift yng Nghaerdydd, disgynnydd i drefedigaethwyr sy’n clodfori diwylliant trefedigaethol mewn iaith drefedigaethol. Efallai mai gwir nod ymosodiadau ar y Wladfa yw dyrchafu moesoldeb Cymry heddiw drwy ‘ymddiheuro’ am y gorffennol heb orfod aberthu dim. Mae hyn yn amlygu un arall o wendidau gwleidyddiaeth ddiwylliannol, sef y duedd weithiau i ymateb i anghyfiawnder cymdeithasol mewn modd perfformiadol yn hytrach nag arddel newid go-iawn. Mae ‘canslo’ Patagonia yn ffordd gyfleus o allforio cyfrifoldeb am hiliaeth Gymreig i gymuned dlawd yn y De Byd-Eang heb fod angen i bobl yng Nghymru newid dim ar eu hymddygiad eu hunain.

Mae rhan ganolog o’r ymdrech i ailfathu diwylliant Cymraeg wedi’i wreiddio mewn canfyddiad o foesoldeb. Mae pwysleisio moesoldeb yn nodwedd ar y mudiad woke yn y Gorllewin yn gyffredinol ond treiddiodd ymhellach yng Nghymru am i’r Cymry ymserchu mewn moesoli erioed. Wele’r adwaith i’r Llyfrau Gleision a rhagrith y cyfnod anghydffurfiol. Ymateb seicolegol yw moesoli Cymreig i’r bychanu fu arnom fel lleiafrif ieithyddol, ac mae’n wedd ar wleidyddiaeth parchusrwydd.

Mae’r moesoli wedi effeithio ar estheteg gan godi cwestiynau dwys am swyddogaeth a diben celfyddyd yng Nghymru. A ddylai celfyddyd gyd-fynd â ‘gwerthoedd’ penodol? Mae Llenyddiaeth Cymru yn mynnu fod ‘ein gwerthoedd’, chwedl hwythau, yn cael eu ‘parchu’ gan eu ‘cyfranogwyr creadigol’ a hyd yn oed gan eu ‘cynulleidfaoedd’. A ydym yn ôl felly yn Oes Fictoria pryd lluniwyd llenyddiaeth, a’r ymateb iddi, yng nghysgod sensoriaeth feddal ‘gwerthoedd’ cymdeithasol hegemonaidd ar y pryd, megis rhai’r eglwysi anghydffurfiol? Roedd yr enwadau’n ddiffuant, yn argyhoeddedig eu bod yn gwneud lles. Achubodd eu mudiadau dirwest, a ganmolir mewn cynifer o destunau llenyddol Fictoraidd, filoedd o fywydau. Ond er mor werthfawr dirwest fel mudiad, nid yw’r llenyddiaeth sy’n ei glodfori mewn termau moesol syml, ar anogaeth prif sefydliadau Cymraeg yr oes, o fawr o werth.

Wrth edrych ar lenyddiaeth Gymraeg heddiw, mae cymariaethau tra amlwg. Mae llawer o lên gyfoes yn pwysleisio negeseuon didactig. Mae llenyddiaeth plant yn bedagogaidd. Mae disgwyl i lyfrau gyfleu safbwyntiau neu themâu cymeradwy. Mae gwaith yn cael ei gomisiynu er mwyn hyrwyddo negeseuon penodol, a gweithiau sy’n codi’n organaidd o’r gymuned yn cael eu hanwybyddu. Canmolir symlder ac uniongyrchedd symlder am fod negeseuon didactig yn haws eu deall mewn iaith syml. Ychydig o gymhlethdod sydd yn ein llên bellach, llai byth o ysgafnder; nid oes asbri. Mae’r estheteg Gymraeg newydd yn bosib am fod llenyddiaeth o’r fath yn credu mewn termau absoliwt yng ngwirionedd a daioni ei dadleuon ei hun. Mae popeth yn iawn, neu nid yw’n iawn. Moesoldeb yw hyn, ond nid yw’n foeseg.

Hwyrach y dylai’r sector celfyddydol yng Nghymru ofyn pam fod y diwylliant Gwyddeleg yn cael sylw byd-eang ar hyn o bryd ac nid y diwylliant Cymraeg. Mae’r band Kneecap wedi cael llwyddiant anhygoel wrth rapio negeseuon gweriniaethol gwrth-sefydliadol mewn Gwyddeleg: pob tocyn wedi’i werthu bron ar gyfer teithiau yn America, Awstralia a Seland Newydd, eu ffilm newydd yn yr iaith Wyddeleg wedi ennill prif wobr Prydain am ffilmiau annibynnol, a sylw cyson iddynt yn y wasg ryngwladol. Dyma enghraifft o ddiwylliant mewn iaith leiafrifol sy’n codi o’r gymuned ac yn adlewyrchu ei theithi meddwl.

Rhan o’r stori yw dewrder cyrff diwylliannol yn Iwerddon wrth gefnogi band heriol ac anarchaidd mae’n amhosib ei reoli mewn modd ‘diogel’. Un o amcanion Kneecap yw dehongli gwleidyddiaeth ddiwylliannol o safbwynt Gwyddeleg yn hytrach nag Angloffon. Felly mae Kneecap yn cymharu siaradwyr y Wyddeleg â’r sawl sydd wedi dioddef ‘imperialism and colonialism’ ac yn tynnu cymariaethau uniongyrchol rhwng siaradwyr Gwyddeleg a phobloedd frodorol yn America ac Awstralia. Yng Nghymru, byddai’n amhosib i fand o’r fath lwyddo. Byddai wedi cael ei ‘ganslo’ am awgrymu y gallai fod Cymru wedi cael ei threfedigaethu a byddai’r gymhariaeth â phobloedd frodorol yn arwain at gyhuddiadau o feddiannaeth ddiwylliannol. Faint o’n sefydliadau fyddai’n barod i gymryd risg â band o’r fath?

Mae pethau’n llawer rhy ddiogel yng Nghymru, a dylem fod yn anelu’n uwch na chreu diwylliant sy’n ddrych yn unig o flaenoriaethau blaengar byd y celfyddydau yn Lloegr. Dylid coleddu yn hytrach agweddau blaengar sy’n addas yng nghyd-destun y byd Cymraeg. Camp Kneecap yw cael cynulleidfa ryngwladol i ystyried beth yw diwylliant blaengar o safbwynt cymuned ieithyddol leiafrifol frodorol.

Ac eto, nid yw popeth am y mudiad woke yn niweidiol. Ei nod arddeledig yw hybu gallu rhai lleiafrifoedd i gyfrannu i gymdeithas, a hynny heb iddynt orfod ildio eu hunaniaeth eu hunain. Fersiwn wedi’i symleiddio yw’r wleidyddiaeth hunaniaeth hon o syniadaeth athronyddol ddilys sy’n dadlau o blaid gwahanol gategorïau o hunaniaeth a wthiwyd i’r cyrion gan yr Oleuedigaeth. Pethau yw’r rhain fel hil, rhywedd, rhywioldeb, anabledd, ac yn y blaen. Dylid cefnogi safbwyntiau sy’n hyrwyddo grwpiau a ormesir megis dadleuon ffeminyddol yn erbyn patriarchiaeth, dadleuon gwrth-hiliol am fraint y gwyn, a dadleuon y gymuned LHDTC+ sy’n gwrthwynebu homoffobia. Amhosib dadlau fod gan yr hunaniaeth leiafrifol Gymraeg hawl i wrthsafiad, ac yna gomedd hynny i grwpiau eraill.

Ond ni allwn anwybyddu fod gwleidyddiaeth hunaniaeth Angloffon wedi osgoi creu categori hunaniaethol ar gyfer cymunedau ieithyddol lleiafrifedig. Nid yw iaith yn un o nodweddion gwarchodedig deddfau a pholisïau cydraddoldeb y Deyrnas Gyfunol (a Chymru). Ymhellach, nid yw’n bwysig mewn theori croestoriadaeth (intersectionality), a ddatblygwyd gyntaf yn yr Unol Daleithiau. Byddai modd, wrth gwrs, fel amrywiad ‘lleol’ yng Nghymru, ychwanegu iaith at y bwndel o nodweddion hunaniaethol a geir, ac i ryw raddau mae hyn yn digwydd eisoes. Er hynny, mae’n wendid yn y theori, ac yn hyrwyddo’r dyb nad yw iaith yn ystyriaeth ‘go-iawn’ o safbwynt cydraddoldeb cymdeithasol.

Ceir gwendid arall mewn theori gwleidyddiaeth hunaniaeth. Gan nad hunaniaeth fel y cyfryw yw dosbarth cymdeithasol, mae’n anodd i wleidyddiaeth sy’n seiliedig ar gategorïau hunaniaethol yn unig ymateb i realiti dosbarth. Ond heb sylw i ddosbarth cymdeithasol, beth sydd i rwystro’r breintiedig oddi mewn i grŵp lleiafrifol rhag corlannu ar eu cyfer y rhan fwyaf o enillion y grŵp? Yn yr un modd, bydd llawer yn y grŵp mwyafrifol yn wynebu anfantais ar sail dosbarth cymdeithasol er nad ydynt yn perthyn i leiafrif o fath yn y byd. Nid oes modd iddynt elwa ar wleidyddiaeth hunaniaeth er mwyn cael cyfiawnder. Beth sy’n digwydd iddynt hwy? Mae hyn yn fater o bwys oherwydd cymdeithas ôl-ddiwydiannol dlawd yw Cymru. Gallwn yn hawdd ddilyn y llwybr a droediwyd yn America wrth i Trump a’r dde eithafol haeru nad yw’r Chwith yn hidio am y dosbarth gweithiol mwyach.

Mae gan wleidyddiaeth hunaniaeth wendidau theoretig eraill. At ei gilydd, nid yw’n trafod mathau o gamwahaniaethu sy’n seiliedig ar ethnigrwydd ond nid o angenrheidrwydd ar hil. Y grŵp sy’n wynebu’r camwahaniaethu strwythurol gwaethaf ym Mhrydain heddiw yw Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Dyma leiafrif ethnig nad yw’n cael ei ddiffinio gan hil ac mae llawer o’i aelodau’n wyn, ac eto mae hiliaeth yn brofiad beunyddiol iddynt. Nid oes chwaith ddigon o gynlluniau i ymladd gwrth-semitiaeth. Mae’n bosib hefyd fod agweddau gwrthnysig y mudiad woke tuag at y diaspora Cymreig (senoffobia yr wyf fel Cymro Llundain wedi ei brofi fy hun) yn deillio o’r ffaith y ceir yno fath o ethnigrwydd lleiafrifol nad yw’n seiliedig ar hil. Nid yw pob lleiafrif wedi medru elwa ar safiadau’r mudiad woke, ac wrth i gwynion rhai grwpiau gael eu diystyru mae sefyllfa rhai wedi gwaethygu.

Mewn cymdeithas iach, byddai modd trafod gwendidau o’r fath yn agored er mwyn cael y polisïau a’r syniadau gorau, a byddai hyn o fudd yn benodol i leiafrifoedd, gan gynnwys y lleiafrif Cymraeg. Byddai’n arwain at wella theori, syniadaeth a pholisi mewn meysydd sy’n ymwneud â lleiafrifoedd a lleiafrifaeth. Ond yng Nghymru heddiw, nid yw trafodaeth o’r fath yn bosib.

Rhaid darganfod ffyrdd yng Nghymru o hyrwyddo cydraddoldeb a hybu trafodaeth: ni ddylem gael ein gorfodi i ddewis rhyngddynt. Dylem sefyll o blaid cydraddoldeb a chynrychiolaeth i leiafrifoedd a’r un pryd herio trywydd mwy unbenaethol y mathau hynny o wleidyddiaeth ddiwylliannol sy’n ceisio atal trafodaethau deallusol. Wedi’r cwbl, os nad oes gan ddiwylliant lleiafrifol yr hawl i fynegi ei deithi meddwl, pa swyddogaeth yn union sydd ganddo? Ac os nad yw llenor yn cael ysgrifennu am beth sy’n bwysig iddo, i beth mae o’n dda?

Published 20 October 2025
Original in Welsh
First published by O’r Pedwar Gwynt (Welsh original); Eurozine (English version)

Contributed by O’r Pedwar Gwynt © Simon Brooks / O’r Pedwar Gwynt / Eurozine

PDF/PRINT

Read in: EN / CY

Published in

Share article

Newsletter

Subscribe to know what’s worth thinking about.

Discussion