Gair newydd Geiriadur Caergrawnt
Mae dynes yn llefaru gerbron y camera ynghylch y ffordd orau i wasanaethu eich gŵr. Mae bod yn ddarostyngedig ‘wedi mynd yn air brwnt’, meddai. Aiff yn ei blaen i fanylu ar ei hanes personol, ar sut y trawsffurfiodd o fod yn ‘ffeminydd calon galed’ i fod yn ddynes sy’n arddel benyweidd-dra traddodiadol, hynny ydi, addfwynder, gwneud bara, estyn llaw. Fy chwaer yw’r ddynes sy’n siarad; rwyf wedi gwylio’r fideo hwn efallai ddeg o weithiau’n barod. Mae fy chwaer yn un o nifer cynyddol o fenywod sy’n uniaethu â’r syniad o fod yn tradwife – mae cynifer ohonynt erbyn hyn nes bod Geiriadur Caergrawnt yn ddiweddar wedi cyhoeddi tradwife fel un o eiriau newydd y flwyddyn. Wrth i mi ysgrifennu hyn, mae 62.1 miliwn o bostiadau ar TikTok yn unig wedi eu tagio â’r label tradwife. Gellir synhwyro’r graddau mae’r syniadau hyn wedi treiddio i ddiwylliant: wrth edrych yn ffenestri’r siopau yn Oxford Street, meddai ffrind, ‘Pam fod pob siop am i mi wisgo fel petawn i yn Little House On The Prairie?’
Ar Instagram, TikTok a YouTube, mae ‘gwragedd traddodiadol’ yn ffilmio eu hunain yn gwneud jam, yn arwain ieir o gwmpas gerddi lle mae blodau cysglyd yn nodio eu pennau, neu’n siarad yn angerddol am wrth-ffeministiaeth, am Theori’r Disodliad Mawr, a sut i bobi bisgedi. Fel sy’n nodweddiadol o fudiadau’r asgell dde eithafol ar y rhyngrwyd, nid yw eu gwleidyddiaeth yn wleidyddiaeth unedig. Ond mae un peth sydd yn eu huno, serch hynny, sef yr hyn sydd yn yr enw. Mae tradwives yn eiriol dros ddychwelyd at chwarae rhannau rhywedd ‘traddodiadol’, yr enillydd bara a’r gwneuthurwr bara, rhannau y maent yn eu chwarae a’u hyrwyddo fel rhai naturiol a diamser.
A barnu wrth y naws a grëir gan tradwives, ymddengys eu bod yn codi eu gweledigaeth ynghylch beth yw bod yn ddynes o’r 1950au, neu o orffennol cyn-ddiwydiannol amhenodol, pan oedd pobl yn tyfu eu bwyd eu hunain, yn golchi popeth â llaw, ac yn ysgrifennu llythyrau yng ngolau cannwyll. Yn estheteg y tradwife, gellir gweld cyfnodau mewn hanes cwbl wahanol i’w gilydd yn asio – gwisgo ffrog patrwm dotiau a gwefusau coch wrth hidlo gwin cartref, er enghraifft. Mae’r ‘gwragedd traddodiadol’ hyn wedi eu mwydo mewn trosiadau gweledol cymysg, a hynny’n symptomatig o ba mor arwynebol ydi eu safbwynt.
Pan mae tradwife yn defnyddio’r gair ‘traddodiadol’, yr hyn a olyga yw mai’r trefniant hwn, sef y fam oddi mewn i’r cartref a’r tad yn ennill bywoliaeth y tu allan i’r cartref, yw sut mae’r byd wedi gweithio erioed. Pam? Yn syml, oherwydd tueddiad naturiol dynes i fod yn ostyngedig ac uchelgais naturiol dyn i ymdrechu at rywbeth. Mae un anhawster mawr yn perthyn i’r syniad hwn, wrth gwrs, sef mai ffantasi anhanesyddol ydyw. Mae rhywedd a’i berfformiadau wedi newid dros amser: uchafbwynt gwrywdod, ar un adeg yn y 1700au, oedd gwisgo wig cwrliog wedi ei bowdro, ynghyd â sanau tyn iawn hyd at y pen-glin. Serch hynny, mae tradwives yn siarad am fenyweidd- dra fel pe bai iddo ystyr sefydlog, annewidiol, ac efallai mai dyma un o’r rhesymau pam na lwyddant i ddarganfod pa foment yn union y maent am ddychwelyd iddi: mae bod yn rhy benodol yn dod â’i faich ei hun, wedi’r cyfan.
Ystyrir y 1950au yn aml fel oes aur y teulu ond, o safbwynt sut i strwythuro bywyd teuluol, arbrawf ydoedd a barhaodd am lai na degawd, ac a gafodd ei roi ar waith gan grŵp penodol iawn (o bobl wyn, dosbarth canol), ac a ystyrid yn rhyfedd hyd yn oed yn ei gyfnod ei hun; roedd sylwebaeth helaeth ar y pryd ynghylch y ffaith bod merched yn priodi ynghynt ac ynghynt a hefyd ynghylch y ffaith bod llai a llai o fenywod ifanc yn mynd ymlaen i addysg uwch. Fel y noda Stephanie Coontz [sy’n arbenigo ar hanes y teulu yn yr Unol Daleithiau], daeth un o bob tair priodas a ddechreuodd yn yr 1950au i ben mewn ysgariad. Hyd yn oed os derbynnir y 1950au fel pinacl oes y teulu niwclear, dylid cofio bod y cyd-destun economaidd ar y pryd yn wahanol iawn i’n cyfnod ni. Roedd yn oes budd-daliadau ar bwrs y wlad, ehangu lles, a marchnad dai lle gallai cyn-filwyr, o dan rai cynlluniau, roi blaendal o un ddoler am dŷ, ac roedd cyflogau’n tyfu’n aruthrol ochr yn ochr â rheolaeth dynnach ar gorfforaethau. Hyd yn oed o dan yr amodau hyn, a yrrodd y teulu ‘ffens piced’ i uchelfannau diwylliannol newydd, dim ond 60 y cant o fenywod o oedran gweithio oedd yn wragedd tŷ.
Y tu allan i’r cartref y mae’r rhan fwyaf o fenywod wedi gweithio, a hynny am y rhan fwyaf o’r amser, mewn swyddi yr un mor amrywiol â’u cymheiriaid gwrywaidd, fel y nodir gan Silvia Federici yn ei chyfrol eiconig Caliban and the Witch (2004). Mae’n debyg bod y genod ym Mesopotamia yn bragu digonedd o gwrw. Ewch â fi’n ôl i Mesopotamia! Mae yna adegau hanesyddol eraill sy’n sefyll allan yn nychymyg y tradwife: yr oes Fictoraidd a’i ‘hangel yn y tŷ’ enwog, yr arloeswragedd (gwendid y darlun hwn ydi nad oedd ganddynt dai na swyddi mewn gwirionedd yn y ffordd yr ydym yn eu deall erbyn heddiw, a ddylai fod yn rhybudd i ni efallai nad yw hyn yn ymwneud â swyddi na thai ond â hil), neu, i rai o’r neo-batriarchiaid, y foment ogoneddus honno yn y gwareiddiad Rhufeinig pan na allai menywod fynd allan heb ganiatâd eu partner gwrywaidd.
Mae math gwahanol o draddodiad yn gysgod i’r un dychmygol hwn. Mewn eiliadau o ansicrwydd economaidd a gwleidyddol, mae pryderon am gyfalaf wedi cael eu dadleoli i gyrff menywod, gan niwtraleiddio’r posibilrwydd y gellid dychmygu neu gynnal trefn gymdeithasol newydd. Yma, cydnabyddwn yn fyr garreg sylfaen patriarchaeth gyfalafol, sef adleoli llafur atgenhedlu i’r maes domestig, preifat, lle mae llafur nid yn unig ynghudd ond hefyd yn cael ei ddibrisio. Er mwyn osgoi talu i fenywod am y llafur hwn, mae’n rhaid eu hargyhoeddi mai eu tynged yw hyn, dim byd mwy na mynegiant o’u natur. Mae angen plismona’r ffiniau hyn, neu, fel y mae Angela Saini yn dadlau yn Patriarchs (2023), nid oes angen deddfau i orfodi ymddygiad naturiol. Enghraifft syml: os yw menywod yn dyheu yn eu heneidiau am fod yn famau, pam y byddai angen, fel y mae rhai ffigurau ar yr asgell dde eithafol yn awgrymu, inni gyflwyno’r gosb eithaf am erthylu? Mae patriarchaeth yn tueddu i ddefnyddio’r abwyd a’r gansen fel ei gilydd a gwadu bodolaeth y naill fel y llall.
Os nad yw’r patrymau ymddwyn hyn ar sail rhywedd mor draddodiadol wedi’r cyfan ond yn cael eu gorfodi fel ymateb i amgylchiadau economaidd-gymdeithasol sy’n gyfnewidiol, mae angen gofyn – pam rydym yn y sefyllfa hon? Ac os ydym yn gwadu’r posibilrwydd mai cudd-weithredwyr hyper-fenywaidd sydd ynghwsg yw’r menywod ifanc hyn, a hwythau wedi’u rhaglennu i wirioni ar jam, pam felly maen nhw am eu darostwng eu hunain o’u gwirfodd? Mae’r galwadau hyn am fywyd mwyn, bywyd llai cymhleth, yn gweithio oherwydd eu bod yn adlewyrchu problem wirioneddol y mae’r patrymau ymddwyn hyn ar sail rhywedd yn honni eu datrys: anodd iawn, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ydi datblygu gyrfa a magu teulu. Mewn gwirionedd, mae’n anodd hyd yn oed gwneud y naill neu’r llall. Pan fyddwn yn chwilio am rywbeth i roi’r bai arno am hyn, ai cyd-ddigwyddiad ydi o ein bod yn beio cydraddoldeb ei hun, a ninnau wedi treulio’r tri degawd diwethaf yn dweud wrth fenywod y gallant gael y cyfan, dim ond y bydd hynny’n siŵr o’u gwneud yn ddigalon?
Roedd yr adlach yn erbyn ffeministiaeth ‘prif ffrwd’ yn amlwg eisoes yn y 1980au nes cymell Susan Faludi i ysgrifennu ei chyfrol arloesol Backlash (1991). Ynddi, mae’n disgrifio ‘proses o erydu’, llawer ohono yn cyfateb i bropaganda noeth sydd wedi corddi pryderon personol menywod a thorri eu hewyllys gwleidyddol’. Rydym wedi cael dros ddeng mlynedd ar hugain o ddisgwrs poblogaidd sydd wedi datgan bod menywod yn rhydd ac yn ddigalon, gan awgrymu bod y naill yn gyfrifol am achosi’r llall a chan wadu felly y diffyg cydraddoldeb sy’n parhau. Roeddwn i, hyd yn oed – a ddaeth i oed yng nghyfnod Destiny’s Child a’r Spice Girls, ac sydd wedi byw trwy ddyddiau tanbaid Topshop yn argraffu’r gair ‘feminist’ ar esgidiau a wnaethpwyd mewn sweat shops – yn teimlo grym diwylliannol disgwrs a amheuai fod ‘cael y cyfan’ yn peri ichi fod yn ddigalon ac yn gwynfannus. Gosododd y syniad hwn bod menywod wedi ennill cydraddoldeb (ac nad oedd hynny, ar y cyfan, yn deimlad da) y llwyfan ar gyfer ton newydd o ffeministiaeth, un a roddodd y gorau i amcanion newid systemig a throi ei sylw tuag i mewn.
Meddyliwch am alwad Sheryl Sandberg i ‘fewnoli’r chwyldro’. Hyd yn oed os derbynnir nad ydym yn mynd i gael chwyldro economaidd (nad yw’n rhywbeth y mae rheidrwydd arnom ei dderbyn, dylwn nodi: fel y dywedodd Ursula K Le Guin, mae cyfalafiaeth yn teimlo’n anochel ond roedd hynny’n wir hefyd am hawl ddwyfol brenhinoedd), gallwn er hynny weld ar y gorwel amlinelliad disglair cynlluniau dan nawdd y llywodraeth, megis gofal dydd, oriau gweithio hyblyg, absenoldeb tadolaeth gorfodol, yn hofran yno fel gwerddon yn yr anialwch. Siomedig, a dweud y lleiaf, ydi ein bod wedi cael ton o ffeministiaeth sydd mor sylfaenol anghymwys i fynd i’r afael â phroblemau’r drefn gymdeithasol sy’n teyrnasu, heb sôn am y ffyrdd y mae’r math hwn o ffeministiaeth hynod unigolyddol wedi ei seilio ar ddewis yn gwadu croestoriadaeth: nid yw’n syndod bod tradwives mor barod i goleddu goruchafiaeth y dyn gwyn.
Canlyniad lleihau ffeministiaeth nes nad yw’n ddim byd mwy na dewisiadau personol yw bod pobl yn ymateb i tradwifery trwy ddweud, fel y mae Stacey Dooley yn gwneud, ‘mae a wnelo â dewis, maent yn fenywod yn eu hoed a’u hamser’. Ceir digon sydd wedi ei ysgrifennu am tradwifery sy’n mabwysiadu’r agwedd hon; mewn un darn, mae’r awdur yn gwisgo fel tradwife am wythnos ac yn datgan, ‘Fe wnaeth f’arbrawf f’atgoffa ein bod yn cael chwarae gyda’r hyn sy’n gwneud inni deimlo ar ein gorau.’ Ni ellir mynd i’r afael â gwleidyddiaeth sy’n seiliedig yn gyfan gwbl ar ddewis personol, ynghyd â rhoi’r gorau i’r nod o greu newid systemig mewn byd cyhoeddus, trwy hyrwyddo grym dewis personol. Mae’r ffocws dros ben llestri hwn ar yr unigolyn yn creu sefyllfa lle na all menywod ifanc feddwl am wleidyddiaeth y tu hwnt iddyn nhw eu hunain, sefyllfa, fel a nodwyd gan Catherine Rottenburg [awdur The Rise of Neoliberal Feminism, 2018], lle ‘mae chwyldro, mewn geiriau eraill, yn cael ei drawsnewid o fod yn symudiad torfol i fod yn weithgaredd mewnol ac unigol’. Ac fel y mae Faludi yn rhybuddio, mae adlach gwreig-gasaol ‘ar ei fwyaf pwerus pan fydd yn mynd yn rhywbeth preifat, yn gwreiddio y tu mewn i feddwl menyw gan droi ei golwg yn un fewnblyg, nes ei bod yn dychmygu bod y pwysau i gyd yn ei phen, nes ei bod yn dechrau gorfodi’r adlach hefyd, yn ei herbyn hi ei hun’. A ellir dychmygu cyd-destun lle mae hyn i’w weld yn fwy amrwd na phan fydd y tradwife yn ffilmio ei hun, ar ei phen ei hun, yn ei chartref?
Mae hyn yn fy arwain at y methiant allweddol yn rhesymeg symboliaeth y tradwife: y camera. Mae’r camera yn ganolog i’r tradwives hyn. Mae Lois Shearing yn nodi bod ‘creu cynnwys yn waith sy’n gofyn medr, sy’n cymryd amser – y math y mae tradwives yn honni ei osgoi’. Mae ganddynt gysylltiadau hysbysebu, maent yn ennill arian oddi wrth eu sianeli, maent yn gwerthu canhwyllau ac yn ysgrifennu llyfrau ac yn dylunio calendrau. Fel pob dylanwadwr, maent yn gwerthu gweledigaeth o’r bywyd da sy’n ffuglen anghyraeddadwy am ei bod yn dibynnu ar barodrwydd i gredu sy’n dileu natur wneuthuredig y golygfeydd a ddarlledir. Mae tradwives yn codi o waddol y girlboss choice feminist – adeiladu busnes ar-lein lle maent yn gwerthu’r offer i ddad-wneud eich rhyddid, a’r ffedog i’w gwisgo unwaith rydych wedi gorffen. Drwy hyn, mae tradwifery yn berffaith ar gyfer ein moment hanesyddol gyfredol – nid ydych fyth heb eich clocio ond mae’r llafur yn cael ei ysgubo ymaith, megis trwy rym swyn, rywle o olwg y camera. O, y fenter fach hon? Dim ond rhywbeth ffwrdd-â-hi gen i ydi hyn.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig cymryd tradwives o ddifrif fel propagandwyr a chymryd o ddifrif yr amodau sydd wedi rhoi bod iddynt. Nid oes amheuaeth nad ydi tradwives yn rhan o beiriant niweidiol yr alt-right sy’n galw am drais yn erbyn pobl o liw, pobl LHDTC+, a menywod. Ond fel y mae eraill wedi nodi, tra bod tradwives yn gallu gwneud niwed – yn wir, mae’n ganolog i’w prosiect – mae niwed yn cael ei gyflawni hefyd yn eu herbyn. Dim ond un ffordd, mae’n siŵr, yw hyn o ddweud bod tradwives yn fy ngwneud yn wirioneddol ddigalon. Un o reolau Estee Williams ar gyfer sicrhau llwyddiant priodasol – tradwife sydd â 200,000 o ddilynwyr ar TikTok yn unig – yw peidio â thrafod eich gwrthdaro personol gydag unrhyw un, ‘cadw eich priodas yn ddiogel rhag ymyrraeth allanol’. Pan oeddwn yn darllen am hanes yr enghreifftiau hyn o adlach gwreig-gasaol, o reolaeth gynyddol dros fenywod, cefais fy nharo gan y graddau yr anogir anghofio am gyfeillgarwch a chymuned, cam angenrheidiol tuag at argyhoeddi menywod mai yn y cartref y maent hapusaf.
Mae hyn yn un o nodweddion amlycaf cam-drin, sef ynysu, cael eich dieithrio oddi wrth ffrindiau, cydnabod, eich teulu. Heb sôn am y ddeinameg rywiol a anogir gan ideoleg y tradwife, lle ystyrir gwadu mynediad eich gŵr i’ch corff yn anfenywaidd. Mae’r menywod hyn wedi eu dal mewn cylch parhaus o hunan-fonitro – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwenu digon, gwnewch yn siŵr pan fyddwch yn gofyn cwestiwn iddo eich bod yn defnyddio tôn ddigon mwyn er mwyn peidio â’i wneud yn ddig – rhywbeth, fel y’n rhybuddir ni gan Rottenberg, sy’n sgil-gynnyrch yr unigolyddiaeth ddwys hon. Nid yn unig nad ydi’r menywod hyn bellach yn feirniadol o’r strwythurau cymdeithasol patriarchaidd sy’n parhau i’w gorthrymu, ni chânt ychwaith feirniadu’r dynion yn eu bywydau sy’n eu cynnal.
Pan fyddaf yn meddwl am tradwives, rwy’n meddwl llawer am lafur gweladwy ac anweladwy. Mae rhywbeth ynghylch ein presennol digidol sy’n peri i rywun bendroni a yw’r rhai sy’n gyfrifol am greu’r rhithiau hardd yn dechrau eu credu hefyd, neu a yw’n sefyllfa debyg i Dorian Gray, lle mae wyneb hyll realiti ynghudd yn atig eu hymwybyddiaeth? Nid yw hyn yn perthyn yn benodol i tradwives yn unig – rhaid ei fod yn brofiad seciolegol digon llethol bod yn Kylie Jenner, brand sydd wedi ei adeiladu ar sail harddwch ac sy’n cael ei gynnal yn drylwyr gan dîm o lawfeddygon. Mae’r llafur atgenhedlu anweladwy yr ydym eisoes wedi ei drafod, y ffordd y caiff menywod eu rhoi o’r neilltu, yn y cartref, y parodrwydd clasurol i gredu sy’n rhan o’r cyfryngau cymdeithasol, yn dibynnu ar gymryd nad yw’r camera yno, ac mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith nad yw gwragedd traddodiadol i fod i weithio. Ond mae math arall o lafur anweladwy yn digwydd yma hefyd, un sydd wrth wraidd gymnasteg feddyliol patriarchaeth: mae perfformio benyweidd- dra traddodiadol yn llafur parhaus sy’n ategu gwrywdod hegemonig. Gwaith menywod yw’r gwaith o gynnal gwrywdod.
Mae’r cynnwys sy’n cael ei greu a’i bostio gan tradwives yn eich bombardio â chyngor ar sut i wneud i’ch gŵr deimlo’n wrywaidd: gofynnwch am ei gyngor, rhowch glod iddo (ond nid gormod am y gall hynny gyfleu bod yn nawddoglyd), peidiwch â meithrin cyfeillgarwch â dynion eraill, peidiwch â dweud dim yn groes iddo. Mae’r gwŷr – sydd bob amser o’r golwg, yn llythrennol anweladwy – yn dibynnu ar y menywod hyn i ysgwyddo nid yn unig faich atgenhedlu, ond hefyd y baich o adeiladu eu hunanddelwedd ar eu cyfer. Sut allwch chi deimlo’n gryf heb fenyw yn meimio darostyngiad? Sut allwch chi deimlo’n rymus heb fenyw na all eich gadael – dim arian o’i heiddo ei hun, dim ffrindiau, a heb unman i fynd? Mae’r dynion hyn fel fampirod – pe baent yn edrych mewn drych ni fyddai dim byd i’w weld ond aer. Rhaid ei bod yn flinedig byw yn y ffordd hon, eich ymddygiad yn cael ei ddadansoddi rhag ofn bod unrhyw wyriad oddi wrth y ddelwedd o’r fenyw ddelfrydol – menyw nad yw’n bodoli ac na ellir ei dyblygu. Nid yw’n ddigon da edrych ar y menywod hyn, sydd yn achosi niwed ac yn cael eu niweidio yr un pryd, a chymeradwyo am iddynt wneud dewis sy’n arwain at eu dinistr eu hunain, yn enwedig pan fo eu cynllun busnes cyfan yn seiliedig ar annog menywod eraill i wneud yr un peth – cynllun marchnata aml-lefel hynaf a thristaf y byd.
Mae’n hawdd dirmygu tradwives – mae’n hawdd dirmygu menywod. Gallwn ddweud mai achosion anobeithiol ydynt, dim ond mwy o gyrff wedi eu pentyrru ar domen sgrap patriarchaeth. O’m rhan fy hun, nid yw hyn yn rhywbeth y gallaf ddygymod ag ef, ac fel cymdeithas byddem yn ffyliaid i’w hanwybyddu. Os mai chwedlonol ydi’r gorffennol sy’n cael ei ddwyn i gof ganddynt nid yw’n golygu nad yw’n beryglus. Pan fyddwn yn chwilio am ddull o leddfu’r pwysau, am pressure valve, mewn cyfnodau o anghytgord economaidd a chymdeithasol, at ddulliau dibynadwy y byddwn yn troi; ac felly fel yng nghysyniad Federici ynghylch cyrff menywod fel adnodd i’w rannu o dan gyfalafiaeth, daw menywod hefyd yn destun cyfleus i bentyrru pryder gwleidyddol – ac i bentyrru rwtsh rhethregol. Mae tradwives yn symptomatig o lithriad annifyr tuag at y dde, ond maent hefyd yn gweithredu fel catalydd, yn annog menywod ifanc i dynnu eu hesgidiau a suddo, yn droednoeth, i fywyd sy’n feddal, yn syml, ac yn eu mygu.
Published 9 February 2026
Original in English
First published by Dublin Review of Books (English version); O’r Pedwar Gwynt (Welsh version)
Contributed by Dublin Review of Books © Katie Buckley / Dublin Review of Books / Eurozine
PDF/PRINTNewsletter
Subscribe to know what’s worth thinking about.

