Yr awdur, newyddiadurwr a’r disident Yassin al-Haj Saleh yw un o leisiau amlycaf y chwyldro yn Syria. Oherwydd ei ddaliadau comiwnyddol, cafodd ei garcharu rhwng 1980 ac 1996 gan gyfundrefn Hafez al-Assad. Wedi iddo gael ei ryddhau, daeth yn llais dylanwadol yn y byd Arabaidd. Cyd-sefydlodd y platfform Arabeg-Saesneg aljumhuriya.net yn 2012. Yn 2015, dihangodd o Syria ar ôl un mis ar hugain ynghudd oddi wrth yr awdurdodau. Mae ei wraig, fu’n weithredol dros hawliau dynol, Samira Khalil, yn parhau ar goll wedi iddi gael ei llathruddo gan Islamiaid yn 2013. Yn y cyfweliad hwn, a gynhaliwyd yn gynharach eleni ym Mharis gan y cylchgrawn Esprit, mae al-Haj Saleh yn trafod ei athroniaeth wleidyddol ynghyd â’i obeithion a’i bryderon ar gyfer dyfodol democratiaeth yn Syria yn dilyn cwymp cyfundrefn Assad.
Dechreuoch ymroi i ysgrifennu yn ystod eich cyfnod yn y carchar yn Syria rhwng 1980 ac 1996. Mae eich profiad o garchar yn cyfoethogi eich dadansoddiad o Syria heddiw a’r byd yn ehangach. Beth yw eich dealltwriaeth o rôl ganolog carchardai yn y Dwyrain Canol? A beth oedd eich ymateb i agor drysau carchar Sednaya [ar gyrion Damascus] fis Rhagfyr y llynedd?
Cyn i mi gael f’arestio, doedd fawr a oedd yn gwahaniaethu fy mywyd i oddi wrth fywyd bob dydd unrhyw fyfyriwr Syriaidd. Ond wedyn ymunais â’r gwrthwynebwyr comiwnyddol ac fe gefais f’arestio. I ddechrau, roeddwn yn meddwl y byddwn yn cael fy ngharcharu am gyfnod o rai misoedd yn unig, neu ychydig flynyddoedd ar y mwyaf. Ar ôl blwyddyn a hanner dan glo, roedd gennym fynediad at lyfrau, mewn Arabeg a Saesneg (dysgais Saesneg yn y carchar). Deuthum yn awdur oherwydd treuliais dair blynedd ar ddeg a hanner yn darllen yn y carchar. Yn ystod fy mlwyddyn olaf, doedd dim modd i mi ddarllen, fodd bynnag, ar ôl i mi gael fy nhrosglwyddo i garchar drwg-enwog Tadmor. Gallech ddweud mai graddio o system garchardai Syria wnes i!
Astudio meddygaeth yr oeddwn i pan gefais f’arestio. Yn y diwedd, mi lwyddais i gael fy ngradd ond wnes i erioed weithio fel meddyg. Roeddwn i am fod yn rhan o fyd awduron, meddylwyr a deallusion oherwydd, erbyn hynny, yr hyn oedd yn mynd â fy mryd oedd darllen ac ysgrifennu. Fy mhrofiad yn y carchar wnaeth fy siapio, oherwydd mi lenwodd fy ieuenctid ag ofn, newyn ac artaith. Gadawodd hynny ei ôl ar fy nghorff a f’enaid ac ailgyflunio fy nirnadaeth o’r byd.
Yn fy ngwaith, ceisiaf ystyried Syria o bersbectif ehangach. Mae Syria yn rhan o’r byd, a does dim modd trafod Syria heb gyfeirio at y Shoah, y Gulag, yr hil-laddiadau a thrasiedïau dau ddegawd cynta’r unfed ganrif ar hugain. Heb ddymuno cymharu fy ngwaith â’u cyfraniad nhw, mae Farlam Shalamof, Primo Levi a Jean Améry, sef fy nghymrodyr, wedi dylanwadu ar fy ngwaith ysgrifennu. Oherwydd fy mhrofiad yn y carchar, mae’r cysyniad o ryddid wedi dod yn ganolog i fy ngwaith: mae ysgrifennu am fod dan glo yn gyfystyr ag ysgrifennu am ryddid […] Roedd agor drysau carchar Sednaya yn symbol grymus. Ar ôl 2006–2007, dyma oedd carchar mwyaf adnabyddus Syria, fel ag yr oedd carchar Tadmor yn y 1980au a’r 1990au. Roedd rhyddhau’r carcharorion a gadael i bobl weld drostynt eu hunaint ffatri rym cyfundrefn Assad yn ffordd gryno o ddangos y wlad yn cael ei rhyddhau. Euthum yno fy hun yn gynharach eleni, a chefais f’atgoffa o’r carchar yn Aleppo lle treuliais nifer o flynyddoedd. Mae’n gyfuniad o bydredd afiach a chreulondeb sy’n awchu am waed. Yn hynny o beth, mae’n cynrychioli’n dda ddwy agwedd ar gyfundrefn Assad. Gobeithiaf yn fawr na chaiff neb ei garcharu yno eto.
Mae eich cysyniad o garchar yn rhan o’r hyn a elwir gennych yn ‘Syrianeiddio’r byd’. Er mwyn bod yn rhydd, meddech, rhaid rhyddfreinio’r hunan oddi wrth genhedloedd. Ond yn dilyn cwymp Assad, onid y genedl yw’r sylfaen y mae’r wlad yn ceisio ailadeiladu ei hun arno?
Pan ddechreuodd y gwrthryfel Syriaidd a’r Gwanwyn Arabaidd, roeddem yn obeithiol y byddai Syria yn symud yn agosach at drefn y gyfraith, a thuag at bliwraliaeth a pharch mewn bywyd gwleidyddol. Ond suddodd y wlad i dryblith. Roedd Syria – ac mae hynny’n dal i fod yn wir heddiw – yn gartref nid dim ond i ddau rym byd-eang, yr Unol Daleithiau a Rwsia, ond hefyd i dri grym rhanbarthol, sef Iran, Twrci ac Israel, ynghyd â nifer fawr o rymoedd sy’n gweithredu o dan y llywodraeth. Mae rhan helaeth o’r byd yn Syria, ac mae saith miliwn o Syriaid (30% o’r boblogaeth) yn ffoaduriaid mewn cant dau ddeg a saith o wledydd o gwmpas y byd.
Ar ben hynny, yn hytrach na symud yn agosach at safonau rhyngwladol trefn y gyfraith, mynd yn fwy Syriaidd y mae’r byd wedi ei wneud. Gallwn weld hyn yn achos Trump a’r cynnydd mewn poblyddiaeth asgell dde yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop, yn ogystal ag awdurdodyddiaeth yn Rwsia, Tsieina, Twrci ac mewn gwledydd eraill. Dyma a olygaf wrth ddweud bod y byd wedi mynd yn fwy Syriaidd: mae Syria wedi datblygu’n feicrocosm o’r byd, ac mae’r byd wedi datblygu’n facrocosm o Syria. Rydw i’n un sy’n credu yn y cyfanfydol: rydw i’n amddiffyn gwerthoedd cyfanfydol, a hynny wrth feirniadu traddodiad yr Oleuedigaeth, androcentrism, eurocentrism ac ati. Ac rydw i’n ddinesydd byd: rydw i’n gwerthfawrogi Paris a Berlin am y rheswm bod modd clywed amrywiol ieithoedd yno a chyfarfod pobl o gefndiroedd gwahanol. Pe bai rhaid i mi ddychwelyd i Syria, byddwn yn gweld colli’r dinasoedd cosmopolitaidd hyn. Ond Syria a’m harweiniodd at gosmopolitiaeth trwy roi’r gorau i fod yn wlad.
Nid cenedl-wladwriaeth mo Syria hyd yma: mae llawer o’r hyn sydd ar y tu allan iddi oddi mewn i’r wlad a llawer o’r hyn sydd oddi mewn i’r wlad ar y tu allan iddi. Ar ben hynny, mae yna wahanol fathau o Syria oddi mewn i Syria: y gogledd-ddwyrain sydd wedi ei ddominyddu gan yr Americanwyr trwy gyfrwng y Lluoedd Democrataidd Syriaidd; y sefyllfa arbennig yn Suwayda, lle mae’r Drwsiaid yn fwyafrif; Ucheldiroedd Golan sydd dan oresgyniad Israel… Ar un olwg, mae Syria yn wrth genedl-wladwriaeth, a dyna sy’n ei gwneud yn ddiddorol i weddill y byd.
Mae rhyddid yn gyfystyr â rhyddfreinio ein hunain oddi wrth nid yn unig y genedl, ond hefyd ffiniau, crefydd, traddodiadau. Golyga hyn gwestiynu ein teyrngarwch i genedl, i ddelfrydau penodol neu ideolegau, ond hefyd i’r cyfnod rydym yn byw ynddo. Mae’r gwrthryfel [yn Syria] wedi ei ysgogi gan ddeisyfiad cyffredinol i dorri’n rhydd oddi wrth bob ffurf ar gaethiwed. Byddai’r alwad hon yn parhau hyd yn oed pe bai Syria yn troi’n genedl-wladwriaeth. Ni ddylid fyth derbyn y genedl fel absoliwt: nid yw cenhedloedd wedi bodoli trwy hanes yn ddiwahân, ac fe ddaw amser pan na fyddant mwyach yn bod.
Rydych o’r farn y dylid gwahanu crefydd a sofraniaeth. Seciwlariaeth yw hyn, megis seciwlariaeth y Ffrancwyr?
Mae’r Ffrancwyr yn rhy ofalus ynghylch caniatáu mynegiant cyhoeddus i grefydd. Mae hynny yn ddealladwy o gofio hanes y wlad, fel ag y mae seciwlariaeth y Kemalistiaid yn Nhwrci yn ddealladwy, ond nid dyna fy seciwlariaeth i.
Mewn Arabeg, mae seciwlareiddio fel arfer yn golygu gwahanu crefydd a gwleidyddiaeth. Ond yr hyn rwy’n dadlau drosto yw gwahanu crefydd a sofraniaeth, sydd ddim yn union yr un peth. Yr hyn a olygaf wrth sofraniaeth yw monopoli y wladwriaeth ar rym trais a llwyr awdurdod y wladwriaeth dros fynnu teyrngarwch cyffredinol. Nid wyf yn gwrthwynebu bodolaeth pleidiau Islamaidd. Mae gwahardd yr Islamiaid bob amser wedi golygu gwahardd y seciwlaryddion a’r democratiaid yn ein cyfnod modern ni. Yn Syria, Tiwnisia, yr Aifft, ym mhob man, mae gwahardd un grŵp penodol yn y diwedd yn effeithio ar bawb.
O dan Hafez al-Assad, roedd yr Islamiaid yn cael eu trin yn llawer mwy garw na’r democratiaid, a nhw oedd yn dioddef fwyaf o ddienyddio mympwyol. Ond roeddem i gyd yn y carchar gyda’n gilydd. F’anhawster i ydi nad ydi’r pleidiau Islamaidd am chwarae’r gêm: maent am gael sofraniaeth, maent am ffurfio llywodraeth ond ddim am fod yn blaid ymysg pleidiau. Rydw i’n cefnogi bodolaeth pleidiau Islamaidd, ond dylent roi’r gorau i’w hamcan i gipio’r wladwriaeth. Rydym angen cyfaddawd hanesyddol, sef bod yr Islamiaid yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o wleidyddiaeth genedlaethol yn gyfnewid am roi’r gorau i’w nod i gipio sofraniaeth.
Nid yw’n hawdd gweithio gyda’r Islamiaid, boed hynny y Frawdoliaeth Fwslemaidd neu, a fortiori, y jihadyddion. Mae’r grŵp sydd ar hyn o bryd mewn grym yn Syria, Hay’at Tahrir al-Sham (HTS), yn hanu’n wreiddiol o gefndir jihadyddol, ond wedi dangos arwyddion eu bod am ffurfio polisi o fod yn gynhwysol ar lefel genedlaethol, cyn belled â bod hynny ar eu telerau hwy. Yr hyn a olygaf yw eu bod yn cynnwys Syriaid fel aelodau o gymunedau yn hytrach na phleidiau gwleidyddol, heb sôn am fel unigolion a dinasyddion.
Yn yr Aifft, ni weithiodd llywodraethu gyda’r Islamiaid; yn Tiwnisia, mi weithiodd am gyfnod, ond pharodd hynny ddim. Yn Syria, codwyd lleisiau niferus oddi mewn i Goalisiwn Cenedlaethol Lluoedd y Gwrthsafiad a’r Chwyldro yn erbyn dominyddiaeth yr Islamiaid a’u deisyfiad i reoli popeth. Heddiw, rydym yn parhau i wynebu problem haerllugrwydd yr Islamiaid a’u dymuniad i ddominyddu.
Nid yw al-Sharaa [arlywydd Syria oddi ar 2025] yn ceisio gorfodi llywodraeth Islamaidd, ond byddai’n gamgymeriad meddwl bod y wlad yn symud tuag at ddemocratiaeth. Yn lle hynny, mae arweinydd yr Hay’at Tahrir al-Sham yn anelu at ‘wleidyddiaeth y mawrion’: gwleidyddiaeth sy’n cael ei chynrycholi gan ddynion adnabyddus, cefnog, penaethiaid llwythau ac arweinyddion cymunedol. Ond yn lle datblygu’r gymdeithas sifil Syriaidd, mae ‘gwleidyddiaeth y mawrion’ yn ffurf ar geidwadaeth sy’n atgynhyrchu ac atgyfnerthu strwythurau traddodiadol.
Rydych yn cynnig adfywio gwleidyddiaeth Syria trwy gynnwys y rhai a gafodd eu heithrio gan gyfundrefn Assad. Beth fyddai goblygiadau polisi o’r fath a sut y byddai modd ei roi ar waith yn Syria, yn arbennig yn nhermau cyfiawnder trosiannol (transitional justice)?
Oddi ar ddemocratiaeth yr Atheniaid, mae rhai rhannau o’r boblogaeth wedi bod yn cael eu heithrio: merched, caethweision, tramorwyr, ac ati. Mae’r drefn hon o eithrio grwpiau penodol yn dal i ddigwydd mewn democratiaethau modern, yn arbennig yn achos merched, y tlawd, mewnfudwyr, yn arbennig os ydynt o liw neu’n Fwslemiaid. Y bobl yma sy’n cael eu heithrio ydi’r rhai rydw i’n cyfeirio atynt wrth ddweud ‘y rhai a gaiff eu heithrio’. Os mai ystyr democratiaeth yw deialog rhyngoch chi a fi, nid yw y ‘fo’, y ‘hi’ wedi eu cynrychioli – na bywyd, sef y biosffer, yr amgylchfyd sy’n cael ei ddinistrio. Y person absennol ydi’r trydydd person nad yw’n derbyn gwahoddiad i’r sgwrs ddemocrataidd.
Chwyldroadau ydi’r ffordd y mae’r rhai sy’n absennol yn mynnu bod eu presenoldeb yn cael ei gydnabod gan wleidyddiaeth. Roedd hynny’n wir yn achos y chwyldroadau Ffrengig, Rwsiaidd a Syriaidd: roedd y rhai a oedd wedi eu heithrio gan wleidyddiaeth yn mynnu eu presenoldeb, dechreuodd y rhai y rhoddwyd taw arnynt siarad drostynt eu hunain, a daeth y rhai a oedd wedi eu gyrru i’r cysgodion i’r golwg. Daw democratiaeth o hyd i’w nerth trwy gynnwys y rhai a gafodd eu cau allan. Un achos eithafol o absenoldeb yw diflaniadau gorfodol. Fel y gwyddoch, mae hynny’n rhan o fy mhrofiad i.
Mae profiad personol a thorfol o ddioddefaint eithafol wedi peri imi feddwl am y berthynas rhwng dioddefaint ac ystyr. Mewn Arabeg, ceir cysylltiad etymolegol rhwng y gair mua’nat (‘dioddefaint’) a ma’na (‘ystyr’). Yn ddiweddar, rydw i wedi datblygu’r syniad o ‘wleidyddiaeth ystyr’: mae creu ystyron yn ein cynorthwyo i gyfleu ein profiadau’n well, i ddeall ein dioddefaint ac i ddelio â’n profiad o drawma. Mae’r syniad hwn yn ymateb i sefyllfa pobl sy’n byw yn alltud, y rhai sy’n byw ag ymdeimlad o anghyfiawnder, nad ydynt yn cael y rhyddid i alaru, sy’n dioddef o ganlyniad i’r ffordd anghyfartal y mae’r gallu i alaru yn cael ei ddosbarthu. Cafodd hyn effaith therapiwtig arna i, megis theodiciaeth.
Wrth i mi ddod yn ymwybodol o’r dimensiwn hwn, cyflwynais drydydd term, sydd hefyd â chyswllt etymolegol â mua’nat a ma’na, sef inaya, ‘gofal’. Nid wyf mwyach yn derbyn y syniad o weld ystyr yn ein holl boenau, ac felly eu hiacháu, fel ag y mae logotherapi Victor Frankl yn rhagdybio. Yr anhawster yw nad yw’r agwedd hon yn gadael lle i ddiffyg ystyr. Er mwyn ymladd nihilistiaeth, mae angen cydnabod bod yna ddioddefaint sy’n wag o ystyr. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn tueddu at bolisi o rifk – sy’n golygu ‘sylw’, ‘caredigrwydd’ a ‘chwmni da’ – yn hytrach na ‘thrais’, sef o ble daw [y gair] raifk, ‘cymrawd’.
Cyfiawnder trosiannol yw’r mater gwleidyddol pwysicaf yn Syria heddiw. Ond mae HTS yn ymddiddori’n fwy mewn osgoi gwrthdaro rhwng cymunedau a sefydlogi’r wlad, ac felly’n tueddu at amnesti cyffredinol. Mae’r feddylfryd hon wedi ei hysbrydoli gan esiampl y proffwyd Mohammed a ddywedodd wrth y trigolion pan gipiodd Mecca: ‘Ewch, rydych yn rhydd’. Ond mae’n bwysig deall bod miliynau o Syriaid wedi eu heffeithio’n uniongyrchol gan ddiflaniadau gorfodol a dienyddiadau diannod, heb sôn am ddinistr rhyfel. Mae’r alwad am gyfiawnder yn dod nid dim ond o du’r elît gwleidyddol, ond hefyd gan y bobl, sy’n cael eu cefnogi gan amddiffynwyr hawliau dynol. Yn wir, dyma gynnwys moesegol y chwyldro ei hun a’r mynegiant cyfreithiol ohono; nid mater o ddisodli’r gyfundrefn yn unig ydoedd.
Mae’r llywodraeth gyfredol yn ofni y gwnaiff system gyfiawnder drosiannol droi yn erbyn ei haelodau, oherwydd eu bod hwythau hefyd wedi cyflawni troseddau. Bydd cyfiawnder trosiannol, os y caiff ei gefnogi gan yr HTS o gwbl, wedi ei neilltuo ar gyfer troseddau’r gyfundrefn yn unig. Dyma’r troseddau mwyaf niferus, yn sicr. Ond nid y regime wnaeth gipio fy ngwraig, fy mrawd a fy ffrind, er enghraifft… Mi fydd brwydro dros y mater hwn. A dyma’r llinyn mesur yn erbyn yr hyn y caiff y cyfnod trosiannol hwn yn Syria ei farnu.
Beth yw’r berthynas rhwng gobaith ac anobaith ar sail eich profiad chi?
Mae mater gobaith ac anobaith wedi bod efo mi oddi ar fy mlynyddoedd cynnar yn y carchar yn y 1980au. Bryd hynny, roeddwn i’n meddwl bod gobaith yn fater o ddewis, bod rhywun yn dewis gweld y byd â gobaith yn hytrach nag anobaith. Roeddwn i o’r farn nad oedd gobaith yn fater o ddod i gasgliad rhesymegol ynghylch amgylchiadau byw. Doedd dim rheswm argyhoeddiadol dros obaith nac anobaith.
Ond yn ystod y blynyddoedd hir hynny yn y carchar, a ymddangosai’n ddiderfyn, dechreuais weld mai’r ffordd orau i ryddhau’r hunan o hualau anobaith oedd rhyddhau’r hunan o obaith. Lluniais gyngor i mi fy hun ac eraill ar sail hyn: er mwyn dal i gyfrannu i fywyd cyhoeddus, dechreuer o anobaith nid o obaith. Rhaid meistroli celfyddyd anobaith fel na wnaiff pobl fyth roi’r gorau i ymladd dros newid, hyd yn oed os ydi’r frwydr yn ymddangos yn anobeithiol.
Yn ystod y frwydr yn Syria, a’r colledion sylweddol, bathais derm i ddisgrifio llofruddio gobaith: ‘speicide’. I mi, ni ellir crynhoi’r drasiedi Syriaidd yn syml fel llofruddiaeth cannoedd o filoedd o bobl; roedd hefyd yn golygu nacáu unrhyw ystyr i ddioddefaint eithafol pobl Syria. Roedd yn golygu difa gobaith ar raddfa dorfol a masgynhyrchu anobaith.
Heddiw, tueddaf i feddwl mai camgymeriad yw gosod gobaith ac anobaith benben â’i gilydd, fel y byddwn yn gwneud fel arfer. Y tu hwnt i anobaith y mae gobaith, i’r un cyfeiriad felly, fel nad oes modd cyrraedd gobaith heb fynd trwy anobaith a’i gario gyda chi. Mae anobaith yn agosach atom na gobaith, yn syml iawn.
Sut y gall Al-Jumhuriya gyfrannu at y drafodaeth gyhoeddus yn Syria? A allwn ddibynnu ar newyddiadurwyr, academyddion a barnwyr digymrodedd i ailadeiladu’r wlad?
Mae dymchwel y gyfundrefn wedi achosi argyfwng i aelodau’r cylchgrawn, gan fy nghynnwys innau. Buom yn gobeithio am hyn ers blynyddoedd lawer, ond bu cyflymder dymchwel y gyfundrefn yn syndod i ni. Mae wedi golygu cwestiynu nifer o brosiectau a chodi’r mater o ddychwelyd i Syria. Rhaid i ni gydnabod bod ein gelyn wedi mynd a bod grym newydd bellach ar waith, un nad ydym yn ei ystyried yn elyn ond yn wrthwynebydd gwleidyddol. Y newyddion da ydi bod ein tîm yn Syria yn tyfu. Ond mae angen amser arnom i ystyried sut i ymuno yn y drafodaeth gyhoeddus, lle nad oes papurau newydd o hyd, ar wahân i Al-Watan, sydd ar gael ar-lein.
O ran academyddion, nid wyf mor siŵr. Mae ein deallusion gorau unai wedi marw neu yn alltud. Does dim prifysgolion safonol gennym, yn arbennig yn y pynciau dyneiddiol. Mae angen trawsnewid prifysgolion Syria yn drylwyr. Am y tro, mae’r llywodraeth newydd wedi bodloni ar eu hailenwi. Ar ben hynny, yn hanesyddol, mae’r brifysgol yn Syria wedi bod yn agosach at y wladwriaeth nag at y gymdeithas, ac mae bywyd deallusol wedi datblygu y tu allan i’r byd academaidd.
Mae cyfreithwyr yn chwarae mwy o ran ac yn ymateb i’r gofyn cyhoeddus am drafodaeth. Mae’r undebau llafur, ar y llaw arall, wedi bod ar stop ers iddynt ddod dan ddylanwad y gyfundrefn Baathaidd yn 1981. Nid yw’r gyfundrefn newydd wedi rhoi arwydd eu bod am hyrwyddo eu hannibyniaeth. Ac eto, ar gyfer ailstrwythuro cymdeithas sifil o ddifri yn Syria, mae’r undebau llafur o bwysigrwydd strategol mwy sylweddol na’r pleidiau gwleidyddol.
A yw hanes y chwyldro yn Iran yn eich cynorthwyo wrth ystyried y sefyllfa bresennol yn Syria?
Mae’r chwyldro yn Iran yn fyw ym meddyliau llawer o Syriaid. Ond nid yw cefnogwyr democratiaeth yn yr un sefyllfa â’r Iraniaid seciwlar ynddi a oedd yn weithredol yn y chwyldro cyn iddynt gael eu heithrio a hyd yn oed eu llofruddio gan y regime Khomeini. Yn wir, mae gwrthwynebwyr mwyaf selog cyfundrefn Assad yn dal i fyw yn alltud ac nid ydynt yn rhan o’r drefn wleidyddol newydd.
Wedi lladdfa’r Alawitiaid yn y rhanbarthau arfordirol ym mis Mawrth, mae’r awyrgylch yn llawer llai positif. Mae’r gwrthwynebwyr sydd yn alltud, yr wyf yn perthyn iddynt, yn ceisio peidio â gwneud pethau’n waeth. Os nad ydym yn dychwelyd i Syria, y prif reswm am hynny ydi nad ydym yn teimlo’n fuddugoliaethus. Rydym yn falch i’r gyfundrefn gael ei dymchwel, a bod Bashar al-Assad a’i ganlynwyr wedi eu gorfodi i adael dan y fath waradwydd, ond nid yw’r fuddugoliaeth hon yn perthyn i ni.
Os bydd rhagor o drais yn Syria, sydd yn eithaf tebygol, mi fydd yn digwydd rhwng yr Islamiaid mwy cymedrol a’r eithafwyr, ymraniad sy’n rhedeg hefyd ar hyd llinellau Syriaidd-cenedlaethol a jihadaidd rhyngwladol.
Pam ydych chi’n galw eich hun yn awdur ac nid yn ddeallusyn neu’n athronydd? A oes a wnelo â’ch arddull ysgrifennu, sy’n farddonol?
Nid oes neb yn y byd Arabaidd yn galw eu hunain yn ‘ddeallusyn’, heb sôn am ‘athronydd’ – dyna rywbeth y gall eraill ei ddweud amdanoch, ar y gorau. Mae iaith yn bwysig i mi, rydw i wrth fy modd â geiriau a llunio ymadroddion newydd, yn arbennig mewn Arabeg, sydd yn rhoi llawer o hyblygrwydd yn hyn o beth. Rydw i’n ystyried fy hun felly yn awdur neu’n ysgrifwr. Serch hynny, dim ond yn Ffrainc y mae pobl yn gwneud sylwadau ynghylch fy arddull farddonol. Credaf fod hynny’n deillio o’m cariad at eiriau, a chariad y Ffrancwyr at arddull.
Published 9 February 2026
Original in English
First published by Esprit 6/2025 (French version); Eurozine (English version); O’r Pedwar Gwynt (Welsh version)
Contributed by Esprit © Yassin al-Haj Saleh/ Esprit / Eurozine
PDF/PRINTNewsletter
Subscribe to know what’s worth thinking about.

